Fe wnaeth ein hadroddiad ganfod nad yw llawer o gyrff cyhoeddus yn defnyddio Asesiadau o’r Effaith ar Gydraddoldeb i'w llawn botensial, yn enwedig o ran hyrwyddo cydraddoldeb a chydlyniant.
Mae Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb (Asesiad EG) yn rhan bwysig o'r dull o fynd i'r afael â gwahaniaethu a hyrwyddo cydraddoldeb yng Nghymru. Mae Asesiadau EG yn helpu gwasanaethau cyhoeddus i gyflawni eu cyfrifoldebau cyfreithiol o dan Ddyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus i osgoi gwahaniaethu yn y penderfyniadau y maent yn eu gwneud ac i hyrwyddo cyfle cyfartal a chydlyniant. Wedi'i wneud yn dda, mae Asesiadau EG yn fwy na modd i ddangos cydymffurfiaeth ac osgoi heriau cyfreithiol. Maent yn ategu twf meddylfryd a diwylliant sy'n rhoi materion cydraddoldeb wrth wraidd datblygiad polisi a phenderfyniadau.
Daethom o hyd i enghreifftiau o arfer da mewn rhai meysydd o'r broses ond mae ein hadroddiad yn nodi rhai meysydd allweddol i'w gwella. Mae angen i Lywodraeth Cymru fod yn glir ynghylch pa fath o bolisïau ac arferion y mae’n rhaid eu hasesu, yn ogystal â'r trefniadau ar gyfer asesu effaith polisïau ac arferion cydweithredol.
Gwelsom hefyd fod Asesiadau EG weithiau'n cael eu cynnal yn hwyr iawn yn y broses o ddatblygu polisi. Roedd llawer o Asesiadau EG yn cydnabod y gallai polisi neu ymarfer effeithio ar grŵp yn gyffredinol ond ni ddangosodd sut y byddai'n effeithio ar fywydau pobl yn ymarferol. Nid oedd yr un o'r Asesiadau EG yr oeddem yn edrych arnynt yn ystyried sut mae gwahanol nodweddion gwarchodedig yn croestorri. Anaml y bydd Asesiadau EG yn ystyried sut mae nifer o benderfyniadau gwahanol yn cyfuno i effeithio ar grwpiau penodol. Hefyd, mae angen i wasanaethau cyhoeddus ymgysylltu'n well a chynnwys pobl sydd â nodweddion gwarchodedig a monitro'r gwir effaith ar bobl unwaith y bydd polisi neu newid yn cael ei gyflwyno.