Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Mae cynghorau'n darparu gwybodaeth gyfyngedig i helpu uwch arweinwyr i ddeall barn defnyddwyr gwasanaeth

30 Gorffennaf 2024
  • Fe wnaeth ein hadolygiad ystyried a yw’r wybodaeth am berfformiad a ddarperir ar gyfer uwch arweinwyr yn eu helpu i ddeall safbwynt defnyddwyr gwasanaethau a deilliannau gweithgareddau Cynghorau er mwyn iddynt allu rheoli eu perfformiad yn effeithiol

    Roedd ein hadolygiad yn canolbwyntio ar y prif adroddiadau y mae cynghorau’n eu defnyddio i helpu uwch arweinwyr i fonitro a rheoli eu perfformiad.

    Mae cynghorau’n gwneud llawer o ymdrech i gynhyrchu’r adroddiadau hyn, sy’n aml yn adroddiadau cyhoeddus. Fe wnaethom yr adolygiad hwn ym mhob un o’r 22 o gynghorau yng Nghymru. Mae cynghorau’n darparu gwasanaethau ar gyfer y cyhoedd gan ddefnyddio arian cyhoeddus. Mae’n hanfodol bod cynghorau’n deall effaith eu gweithgareddau a’u polisïau i wybod a ydynt yn defnyddio arian cyhoeddus yn ddoeth ac yn cyflawni’r hyn y maent yn amcanu at eu gyflawni.

    Roedd ein canfyddiadau’n debyg ar draws y rhan fwyaf o gynghorau: sef mai ychydig o gynghorau oedd yn gwneud gwybodaeth am safbwynt defnyddwyr gwasanaethau’n greiddiol i’w prosesau adrodd a bod adroddiadau’n tueddu i ganolbwyntio ar allbynnau yn hytrach na deilliannau. Yn gyffredinol rydym wedi cyflwyno’r un argymhellion, neu amrywiadau arnynt, i’r rhan fwyaf o gynghorau:

    • cryfhau gwybodaeth am berfformiad sy’n ymwneud â safbwynt defnyddwyr gwasanaethau a deilliannau
    • cryfhau trefniadau ansawdd data. 

    Er nad oedd yr adolygiad hwn yn ymwneud â threfniadau rheoli perfformiad cynghorau fel y cyfryw, mae ein canfyddiadau’n codi cwestiynau sylfaenol ynglŷn ag effeithiolrwydd y trefniadau hynny. Mae’n anodd gweld sut y mae rhai cynghorau’n rheoli perfformiad yn effeithiol os nad ydynt yn adrodd ar wybodaeth am ddeilliannau a safbwynt defnyddwyr gwasanaethau.

    ,
    Roeddwn wedi gobeithio canfod darlun mwy cadarnhaol nag a wnaethom gan bod pwysigrwydd deall deilliannau a safbwynt defnyddwyr gwasanaethau wedi bod yn cael ei bwysleisio am flynyddoedd. Gellid dadlau mai’r rhain yw’r agweddau pwysicaf ar drefniadau rheoli perfformiad cyngor. Mae’r adolygiad hwn yn bwrw amheuaeth a oes gan gynghorau drefniadau priodol i sicrhau darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd wrth ddefnyddio eu hadnoddau. Rwy’n disgwyl canfod sefyllfa well pan fyddwn yn gwneud gwaith dilynol ar ein hargymhellion. Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol
    ,

    Adroddiad Cysylltiedig

    Defnyddio gwybodaeth am berfformiad: safbwynt defnyddwyr gwasanaethau a deilliannau

    View more