Oherwydd hyn, mae'r berthynas rhwng rhai aelodau a swyddogion wedi'u torri o fewn y Cyngor.
Ein prif nod oedd darganfod a oedd gan y Cyngor drefniadau llywodraethu effeithiol ar waith i sicrhau gwerth am arian wrth wneud penderfyniadau gan ganolbwyntio ar y Gwasanaeth Cynllunio.
Gwnaethom gynnal adolygiad o drefniadau'r Gwasanaeth Cynllunio yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam, ac i ba raddau y mae'n cefnogi cyflawni amcanion cyffredinol y Cyngor. Edrychodd ein gwaith ar sut mae'r Cyngor yn adolygu ac yn monitro ei drefniadau llywodraethu, gan gynnwys sut mae'n sicrhau gwerthoedd ac ymddygiadau priodol, gyda ffocws penodol ar y Gwasanaethau Cynllunio.
Ar adeg ein gwaith, nid oedd yr Aelodau wedi mabwysiadu Cynllun Datblygu Lleol. Creodd hyn risgiau sylweddol i'r Cyngor. Ac er bod gan y Gwasanaeth Cynllunio drefniadau llywodraethu priodol ar waith, ac mae'n darparu hyfforddiant cynhwysfawr i aelodau, torrwyd perthynas Aelodau â swyddogion, ac mae cyngor swyddogion proffesiynol yn aml yn cael ei danseilio.