Yn dilyn ein hadroddiad 'Paratoadau yng Nghymru ar gyfer Brexit 'dim bargen' ym mis Chwefror 2019 a llythyr dilynol yn nodi'r heriau allweddol i wasanaethau cyhoeddus ym mis Medi 2019, mae'r llythyr hwn yn amlinellu'r sefyllfa ddiweddaraf.
Paratoadau ar gyfer diwedd cyfnod pontio Brexit
18 Tachwedd 2020
-
Mae gwasanaethau cyhoeddus Cymru yn wynebu'r her o baratoi ar gyfer Brexit tra'n ymdrin hefyd ag effaith pandemig COVID-19.
“Mae symud i berthynas newydd â’r UE yn fater hollbwysig er lles dinasyddion a chymunedau Cymru. Er gwaethaf y blaenoriaethau sy’n cystadlu â’i gilydd ar hyn o bryd, mae hynny’n golygu rhoi adnoddau sylweddol yn eu lle i ddarparu digon o gapasiti i gyflawni’r camau angenrheidiol ac i gryfhau gwytnwch gwasanaethau cyhoeddus yn y tymor byr a’r tymor hir.”
Adrian Crompton, yr Archwilydd Cyffredinol