Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Podlediad: Angen gweithredu beiddgar ar gyfer dyfodol gwasanaethau cyhoeddus Cymru

25 Tachwedd 2025
  • Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru, Adrian Crompton, wedi annog arweinwyr gwleidyddol a gwasanaethau cyhoeddus i gymryd camau beiddgar i sicrhau cynaliadwyedd hirdymor gwasanaethau cyhoeddus Cymru.

    ,

    Wrth iddo agosáu at gam olaf ei gyfnod wyth mlynedd fel Archwilydd Cyffredinol, mae Adrian yn cynnig ei safbwynt unigryw ar yr heriau a'r cyfleoedd parhaus i wella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.

    Mewn cyfres o bodlediadau, mae Adrian yn cael ei ymuno gan y sylwebydd gwleidyddol Betsan Powys wrth iddynt archwilio'r cwestiynau mawr sy'n wynebu arweinwyr y sector cyhoeddus a gwleidyddion yng Nghymru, gan gynnwys:

    • Pwysau ariannol: Gyda phwysau ar gyllidebau llywodraeth leol flwyddyn ar ôl blwyddyn a byrddau iechyd yn brwydro i fantoli eu cyllidebau hyd yn oed er gwaethaf mwy o fuddsoddiad nag erioed o’r blaen, mae Adrian yn rhybuddio bod y model presennol o ddarparu gwasanaethau cyhoeddus yn anghynaladwy.
    • Galw a chymhlethdod cynyddol: Mae gwasanaethau dan straen oherwydd newid demograffig, siociau byd-eang, tra bod tirwedd gwasanaethau cyhoeddus yn dameidiog, yn orlawn ac yn rhy gymhleth.  
    • Ymddiriedaeth a hyder yn dirywio: Mae hyder y cyhoedd mewn llywodraethu a darparu gwasanaethau yn lleihau, yn rhannol oherwydd tueddiadau byd-eang ond wedi'i waethygu gan fethiannau proffil uchel yng Nghymru.
    • Cyfleoedd ar gyfer newid: Gallai trawsnewid digidol, cynllunio'r gweithlu, gwell rheoli asedau, a newid i atal ddatgloi cynhyrchiant a gwerth am arian.

    Hyn i gyd wrth lywio'r heriau byd-eang sy'n llunio'r byd o'n cwmpas o'r argyfwng hinsawdd ac ansefydlogrwydd geo-wleidyddol i ddatblygiad cyflym technoleg.

    I wrando a thanysgrifio i'n podlediadau, ewch i'r dolenni isod:

    Pennod 1 | Safbwynt Unigryw: sgwrs gyda'r Archwilydd Cyffredinol

    Youtube | Apple | Spotify | Zencastr

    Pennod 2 | Dan Bwysau: sgwrs gyda'r Archwilydd Cyffredinol

    Youtube | Apple | Spotify| Zencastr

    Pennod 3 | Cyfleoedd ar gyfer newid: sgwrs gyda'r Archwilydd Cyffredinol

    Rhyddhau: Dydd Mercher 3 Rhagfyr 2025

    Pennod 4 | Wynebu'r Dyfodol: sgwrs gyda'r Archwilydd Cyffredinol

    Rhyddhau: Dydd Mercher 3 Rhagfyr 2025