Rydym ni yma i Rhoi sicrwydd, Egluro a Ysbrydoli
Yr Archwilydd Cyffredinol yw archwilydd allanol statudol y rhan fwyaf o sector cyhoeddus Cymru
Gallwn ddarparu arf unigryw i gyrff cyhoeddus eraill i'w helpu i wella
Mae ein cyfrifon yn cael eu harchwilio gan gwmni annibynnol a benodir gan Senedd Cymru
Darganfyddwch fwy am ein tîm Arwain Gweithredol, Cyfarwyddwyr ac Aelodau'r Bwrdd
Mae'r adran hon yn nodi sut y gallwch ofyn am wybodaeth gennym ac yn rhoi rhai dolenni uniongyrchol i wybodaeth sydd o fudd cyhoeddus ehangach
Llywodraethu a goruchwyliaeth yn Archwilio Cymru
Gweler ein hymgynghoriadau presennol a blaenorol
Rydym yn gweithio i sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella.
Mae gan y Gwasanaethau Archwilio gyrhaeddiad o dros 800 o gyrff cyhoeddus ledled Cymru sy'n ymdrin ag archwilio ariannol a pherfformiad
Cael mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau dysgu a rennir
Ein blaenraglen waith ar gyfer archwilio perfformiad
Rydym yn gweithio gydag eraill o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru a thu hwnt
Mae'r MTG yn paru data ar draws sefydliadau a systemau i helpu cyrff cyhoeddus i nodi twyll a gordaliadau
Gweld ein newyddion diweddaraf, blogiau, digwyddiadau a mwy
Darganfyddwch y newyddion diweddaraf
Mynediad i'n hoffer data a'n ffynonellau data defnyddiol
Gwyliwch ein fideos ar ein sianel YouTube
Mae ein digwyddiadau'n dod ag unigolion o bob rhan o'r sector cyhoeddus yng Nghymru at ei gilydd
Mynediad at yr holl adnoddau o'n digwyddiadau rhannu dysgu
Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.
Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.
Gwefan Readspeaker
Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.
Gweld datganiad hygyrchedd
Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:
post@archwilio.cymru
Mae cynghorau’n ymdrin â heriau wrth iddynt godi, yn canolbwyntio ar reoli’r galw yn hytrach nag ar atal a chyflawni gwerth am arian
Ceir dulliau y gallai cynghorau eu defnyddio i wella’r sefyllfa bresennol.
Mae’r galw am lety dros dro wedi cynyddu bron i bum gwaith drosodd yn y degawd diwethaf. Mae heriau ariannol, ar y cyd â’r cynnydd yn y galw am lety dros dro yn y blynyddoedd diwethaf, yn golygu bod cynghorau’n ymdrin â heriau wrth iddynt godi, gan ganolbwyntio ar reoli’r galw.
Mae lefelau uchel o ran y galw a chostau cynyddol yn golygu bod cynghorau’n gwario symiau sylweddol o arian yn darparu llety, ond yn aml nid yw’r llety hwn yn diwallu anghenion hirdymor pobl. Mae rhoi’r cymorth iawn ac atal yr angen am lety dros dro’n bwysig nid dim ond i gefnogi llesiant pobl, ond i gynaliadwyedd ariannol cynghorau yn y dyfodol hefyd.
Canfu ein hadroddiad nad yw cynghorau wedi gwneud rhyw lawer o gynnydd o ran gwella’r modd y maent yn atal digartrefedd ac o ran lleihau’r galw am lety dros dro. Nid yw cynghorau a’u partneriaid yn defnyddio’r ystod lawn o ddulliau ataliol sy’n golygu bod risg eu bod yn colli cyfleoedd i atal yr angen am lety dros dro.
Canfu ein hadroddiad hefyd nad yw cynghorau’n asesu gwerth am arian eu darpariaeth gyfredol o ran llety dros dro. Hyd yn oed gyda ffocws ar atal, mae’n debygol y bydd wastad angen i gynghorau gynnig rhywfaint o lety dros dro i bobl sy’n profi digartrefedd. Mae sicrhau eu bod yn deall y deilliannau y maent yn eu cyflawni am yr arian a gaiff ei wario’n hollbwysig i gefnogi pobl yn effeithiol a lleihau’r risg i gynaliadwyedd ariannol cynghorau.
Mae ein hadroddiad yn egluro cost llety dros dro a’r codiadau yn y galw amdano, yn ogystal ag adnabod cyfleoedd i wella gwerth am arian y dulliau a ddefnyddir gan gynghorau. Mae ein hadroddiad yn gwneud argymhellion sydd wedi’u bwriadu i wella'r modd yr eir ati i atal lety dros dro, a gwella ei werth am arian.
Mae’r argymhellion hyn yn cynnwys:
• diffinio a gwerthuso gwerth am arian;
• cryfhau cynllunio ar gyfer atal digartrefedd trwy ddefnyddio data’n well; a
• gwella trefniadau gweithio mewn partneriaeth i gefnogi gwaith atal.
Ar hyn o bryd mae cynghorau’n ymdrin â heriau wrth iddynt godi, yn canolbwyntio ar fynd i’r afael â chostau uchel a lefelau uchel o ran y galw. Rwy’n cydnabod bod gwneud y newid yn gallu bod yn gryn her, ond mae angen i gynghorau ganolbwyntio’n fwy ar atal ac asesu gwerth am arian opsiynau llety dros dro. Ceir risg, os na fydd hyn yn digwydd, y bydd datrysiadau byrdymor yn dod yn argyfwng hirdymor i’r rhai sy’n profi digartrefedd ac i arian cyhoeddus.