Roedd materion a ganfuwyd yn adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru er budd y cyhoedd yn cynnwys methiant i fynd i’r afael ag anawsterau mewn perthnasoedd rhwng aelodau a swyddogion a datrys yr anawsterau hynny, diystyru cyngor cyfreithiol allanol, methiant i gydymffurfio â gofynion cyfreithiol a phrosesau penderfynu gwael ac anhryloyw.
Ar 2 Medi 2020, cyhoeddodd Cyngor Sir Penfro y byddai ei Brif Weithredwr yn gadael ei gyflogaeth trwy gytundeb. O dan delerau Cytundeb Setlo, cafodd y Prif Weithredwr daliad terfynu o £95,000 a daeth ei gyflogaeth i ben ar 30 Tachwedd 2020. Cynhaliodd yr Archwilydd Cyffredinol archwiliad o’r amgylchiadau a arweiniodd at ymadawiad y Prif Weithredwr a’r broses benderfynu a arweiniodd at roi’r taliad terfynu gan y Cyngor.
Canfu’r adroddiad fod y Cyngor wedi methu â chofnodi’n iawn beth oedd y rheswm dros ymadawiad y Prif Weithredwr a pham fod y Prif Weithredwr yn mynd i gael taliad terfynu. Fe wnaeth y broses benderfynu a ddilynwyd gan y Cyngor, ynghyd â methu â chydymffurfio â deddfwriaeth na’i gyfansoddiad, arwain at daliad sy’n debygol o fod yn erbyn y gyfraith.
Canfuwyd diffygion sylweddol a niferus o ran llywodraethu yn y ffordd yr ymdriniodd y Cyngor â’r taliad terfynu i’r Prif Weithredwr blaenorol. Mae’r rhain yn cynnwys:
- Methiant i fynd i’r afael ag anawsterau mewn perthnasoedd rhwng aelodau a swyddogion a datrys yr anawsterau hynny
- Diffyg eglurder ynghylch priod rolau a chyfrifoldebau
- Swyddogion yn methu â chyflawni eu dyletswyddau proffesiynol yn iawn
- Diystyru cyngor cyfreithiol allanol
- Methiant i ddilyn polisïau a gweithdrefnau mewnol
- Prosesau penderfynu gwael ac anhryloyw
- Methiant i ddogfennu’r rhesymau dros benderfyniadau ac adrodd arnynt
- Aelodau’r Cyngor yn peidio â chael y cyfle i adolygu’r cynnig a chraffu arno
- Methiant i gydymffurfio â gofynion deddfwriaethol
Er bod canfyddiadau’r adroddiad yn seiliedig ar faterion sy’n ymwneud ag ymadawiad y Prif Weithredwr ac ar y rheiny yn unig, mae angen i’r Cyngor weithredu ar frys i ddarparu hyder i’r cyhoedd bod ei drefniadau llywodraethu’n ddigon cadarn i atal methiannau tebyg rhag digwydd yn y dyfodol. Mae’r adroddiad yn gwneud nifer o argymhellion sy’n ymwneud ag agweddau ar lywodraethu y mae angen i’r Cyngor fynd i’r afael â hwy, gan gynnwys argymhellion ynghylch rolau a chyfrifoldebau, perthnasoedd rhwng aelodau a swyddogion, prosesau penderfynu, taliadau terfynu, datganiad ar bolisi tâl y Cyngor, caffael, defnyddio ymgynghorwyr allanol, Cyfansoddiad y Cyngor a’r angen i sicrhau yr ymlynir wrth Egwyddorion Nolan ar gyfer Bywyd Cyhoeddus.
Mae angen gwelliant pellach o hyd; fodd bynnag, mae’r adroddiad yn cydnabod bod uwch swyddogion yng Nghyngor Sir Penfro wedi cydnabod difrifoldeb canfyddiadau’r adroddiad ac wedi sefydlu cynllun gwella parhaus, yn ogystal â gweithredu i wella’i drefniadau llywodraethu a’i brosesau penderfynu.