Nod Wythnos Prentisiaethau yw tynnu sylw at bwysigrwydd prentisiaethau a datblygu'r sgiliau cywir i ddiogelu gyrfaoedd a busnesau at y dyfodol, a'r thema eleni yw 'Sgiliau am Oes'.
Yn Archwilio Cymru, rydyn ni o blaid darparu prentisiaethau a'r mewnwelediadau a'r safbwyntiau newydd gwerthfawr a ddaw yn eu sgil. Ein nod yw sicrhau pobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda, ac mae ein prentisiaid yn rhan hanfodol o'r broses hon: