Swyddog Cyfathrebu (Cyflenwi Mamolaeth) Ynglŷn â'r rôl Rydym yn awyddus i recriwtio Swyddog Cyfathrebu creadigol iawn i ymuno â'n tîm arobryn tra bod ein cydweithiwr ar absenoldeb mamolaeth. Hoffech chi ymuno â thîm GWYCH am naw mis a helpu i wneud gwahaniaeth i'r sector cyhoeddus? Os felly, efallai mai ein rôl Swyddog Cyfathrebu yw'r cyfle perffaith i chi. Byddwch yn weithiwr hollgynhwysol sy'n mwynhau cael effaith, boed hynny'n cynnal ymgyrch gyfathrebu fewnol, creu cynnwys cyfryngau cymdeithasol atyniadol neu reoli perthnasoedd â'r cyfryngau lleol a chenedlaethol.
Prentis Cyllid Mwy am y swydd Ydych chi'n chwilio am ddewis arall yn lle'r brifysgol ond gyda'r un rhagolygon hirdymor? Neu a ydych chi'n gweithio ym maes cyllid ac yn chwilio am lwybr datblygu proffesiynol? Os oes gennych ddiddordeb mewn ennill a dysgu drwy lwybr prentisiaeth uwch. Yna efallai mai’r Rhaglen Prentisiaeth Cyllid yw'r hyn rydych chi'n chwilio amdano. Ar hyn o bryd mae gennym swyddi gwag yn ein timau De a Gorllewin Cymru.
Pwyllgor Archwilio a Sicrwydd Risg - Aelod Annibynnol Pwy yw Archwilio Cymru? Archwilio Cymru yw'r corff archwilio annibynnol i’r sector cyhoeddus yng Nghymru. Mae gennym sefyllfa unigryw yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, lle ein rôl ni yw:
Adolygiad cenedlaethol yn amlygu cyfleoedd i gryfhau trefniadau llywodraethu ar draws Awdurdodau Parciau Cenedlaethol Cymru
Lleoliad Gwaith (2024) Rydym yn awyddus i recriwtio ar gyfer lleoliadau gwaith i gefnogi ein tîm gwasanaethau archwilio yn ystod misoedd yr haf. Mae'r rhain yn rolau tymor byr, tymor penodol a byddant yn rhoi cyfle i ymgeiswyr llwyddiannus ymgymryd â gwaith ystyrlon a diddorol yn cefnogi archwilio cynghorau tref a chymuned a chyrff llywodraeth leol eraill.
Swyddog Prosiect Newid Ynglŷn â'r swydd Mae Archwilio Cymru yn awyddus i recriwtio Swyddog Prosiect Newid, swydd sy'n ganolog wrth gyflawni ein Rhaglen Newid. Gan weithio ochr yn ochr â chydweithwyr ar draws y busnes a'n rhanddeiliaid allanol, byddwch yn cefnogi'r Tîm Newid canolog a rheolwyr prosiect i gydlynu a chyflawni gweithgareddau rheoli newid.