Trefniadau archwiliad mewnol mewn cynghorau tref a chymuned Mwy am y digwyddiad hwn Dyma’r ail mewn cyfres o weminarau ar gefnogi cynghorau tref a chymuned yng Nghymru. Fe gynhaliom weminar yn Chwefror 2017 ar Reolaeth a llywodraethu ariannol mewn cynghorau cymuned. Mae rolau cynghorau tref a chymuned yn cynyddu o ran eu cyfraniadau i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Gyda hynny daw angen i sicrhau bod eu prosesau mewnol eu hunain yn cefnogi'r anghenion hyn.