Dyfodol Diamod ...Cyllid sy'n cyfrif Roedd y digwyddiad ar y cyd yma yn gyfle i ddysgu mwy am y newidiadau a’r heriau allweddol sy’n wynebu’r sector, yn ogystal â chlywed gan uwch-arweinwyr y wlad ac adeiladu rhwydweithiau rhanbarthol. Cynhalwyd y gynhadledd gan sefydliadau ledled y sector a ariennir yn gyhoeddus yng Nghymru. Roedd rhain yn cynnwys GIG Cymru, Llywodraeth Cymru, Heddlu De Cymru, Cyngor Dinas Caerdydd, Swyddfa Archwilio Cymru a’r sectorau addysg bellach ac uwch.