Sut Mae Byrddau yn Deall Cydraddoldeb Sut mae dod a phenderfyniadau yn agosach i'r bobl maent yn eu heffeithio a sicrhau fod ein cymunedau oll yn medru cyfrannu eu mewnwelediad, gwybodaeth ac arbenigedd? Meddai Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford yn ddiweddar wrth ystyried arweinyddiaeth fod tri peth yn hanfodol; democrateiddio, amrywiaeth a dosbarthu gwneud penderfyniadau. Beth am rolau'r rhai sy'n gyfrifol am graffu cyflenwi gwasanaethau? Sut maent yn gweld cydraddoldeb cyfleoedd a'r effaith mae'n bosib i'r bwrdd ei gael?