Cynhadledd Dyfodol Diamod 2019
Cynhadledd Dyfodol Diamod 2019
Daeth y digwyddiad ag unigolion sy’n gweithio mewn sefydliadau a ariennir yn gyhoeddus ar draws Cymru ac sy’n astudio ar gyfer cymhwyster mewn cyllid ynghyd.
Adeiladodd digwyddiad eleni ar gynadleddau llwyddiannus y blynyddoedd diwethaf drwy archwilio'r newidiadau a'r heriau sy'n debygol o gael effaith ar weithwyr cyllid proffesiynol yn ystod eu gyrfa, ac fe'i cyflwynwyd gan weithwyr cyllid proffesiynol blaenllaw yn y maes.
Dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael eu gadael i lawr gan system dameidiog
Dioddefwyr a goroeswyr cam-drin domestig a thrais rhywiol yn cael eu gadael i lawr gan system dameidiog
Mae gwybodaeth am nifer yr achosion o drais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol yng Nghymru’n annibynadwy ac nid oes darlun eglur o faint y broblem. Mae bwlch yn y data ynghylch pa ddioddefwyr, goroeswyr a chyflawnwyr sy’n defnyddio gwasanaethau cyhoeddus a pha wasanaethau sydd ar gael.
Gwariant anghyfreithlon mewn dau gyngor yn uwch na £290,000
Gwariant anghyfreithlon mewn dau gyngor yn uwch na £290,000
Mae dau gyngor wedi ysgwyddo gwariant anghyfreithlon o fwy na £290,000, yn ôl adroddiadau a gyhoeddwyd heddiw (6 Tachwedd 2019) gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Yn y ddau adroddiad, canfuwyd diffygion arwyddocaol mewn trefniadau caffael, gyda’r naill gyngor na’r llall yn meddu ar drefniadau priodol i sicrhau darbodaeth, effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd o ran eu defnydd o adnoddau.
Cynlluniau i gryfhau gofal sylfaenol ddim yn digwydd yn ddigon cyflym
Cynlluniau i gryfhau gofal sylfaenol ddim yn digwydd yn ddigon cyflym
Er bod y GIG a Llywodraeth Cymru yn cymryd ystod o gamau i gryfhau gofal sylfaenol, mae angen i newid ddigwydd yn gyflymach ac ar raddfa fwy i fynd i’r afael â heriau hirsefydlog a sicrhau bod gwasanaethau hanfodol yn addas ar gyfer y dyfodol. Dyna’r neges allweddol mewn adroddiad, a gyhoeddir heddiw, gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Gorwario gan gyngor yn disbyddu’r cronfeydd wrth gefn
Gorwario gan gyngor yn disbyddu’r cronfeydd wrth gefn
Dros gyfnod o dair blynedd gwariodd Cyngor Tref Penmaen-mawr fwy ar y cyngor cymuned nag a gafodd yn incwm. I dalu am y gorwario hwn, cymerwyd arian o’r cronfeydd wrth gefn, gan olygu nad oedd gan y Cyngor bron ddim arian wrth gefn. Mae hyn yn ôl adroddiad, sydd o ddiddordeb i’r cyhoedd, a gyhoeddwyd heddiw (17 Hydref 2019) gan yr Archwilydd Cyffredinol.
Helpwch i lunio ein trawsnewidiad digidol fel Datblygydd Drupal
Helpwch i lunio ein trawsnewidiad digidol fel Datblygydd Drupal
Angen newidiadau i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus er mwyn iddynt wireddu eu llawn botensial
Angen newidiadau i fyrddau gwasanaethau cyhoeddus er mwyn iddynt wireddu eu llawn botensial
Mae’r 19 o Fyrddau Gwasanaethau Cyhoeddus newydd – a sefydlwyd yng Nghymru i wella llesiant cymunedau – yn annhebygol o wireddu eu potensial oni bai bod newidiadau’n cael eu cyflwyno. Mae adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw (8 Hydref 2019) gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn galw arnynt i weithio’n fwy hyblyg ac i feddwl a gweithredu’n wahanol.
Lansiwch yrfa sy’n cyfrif
Lansiwch yrfa sy’n cyfrif
Oes gennych chi ddiddordeb mewn sut mae arian yn cael ei wario?
Ydych chi am helpu i gefnogi gwella gwasanaethau cyhoeddus?
Ydych chi eisiau gyrfa sy'n cyfrif?
Os felly, efallai mai bod yn hyfforddai graddedig yn Swyddfa Archwilio Cymru yw’r cyfle perffaith i chi.
Llai o aelwydydd mewn tlodi tanwydd ond Llywodraeth Cymru yn methu â chyrraedd ei thargedau
Llai o aelwydydd mewn tlodi tanwydd ond Llywodraeth Cymru yn methu â chyrraedd ei thargedau
Nid yw Llywodraeth Cymru wedi cyrraedd ei thargedau ar gyfer dileu tlodi tanwydd er bod ei chamau gweithredu i’w gweld fel pe baent wedi cyfrannu at ei leihau. Dyna un o brif negeseuon adroddiad, a gyhoeddwyd heddiw, gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.