Sut y mae cynghorau yng Nghymru yn ymdrin â newid gwasanaeth Mae cynghorau yng Nghymru yn gorfod gwneud penderfyniadau pwysig am ffurf a lefel y gwasanaethau a gaiff eu darparu ganddynt yn y dyfodol. Ac, yn gyffredinol, mae ganddynt weledigaeth, blaenoriaethau a threfniadau clir yn eu lle er mwyn gwneud hyn. Ond, mae ein hadroddiad wedi canfod y gallai cynghorau wella trefniadau i fonitro'r effaith ar gymunedau lleol yn sgil gwneud newidiadau sylweddol i wasanaethau.
Eisiau gweithio ar gyfer corff gwarchod y sector cyhoeddus yng Nghymru? Dylunydd Graffeg Ydych chi’n Ddylunydd Graffeg dawnus? Ymunwch â ni! Rydym yn chwilio am Ddylunydd Graffeg profiadol i ymuno â’r Tîm Cyfathrebu am gyfnod penodol o 12 mis. Byddwch yn atebol i’r Pennaeth Cyfathrebu, a byddwch yn creu dyluniadau gweledol arloesol a thrawiadol – ar-lein ac all-lein – i gynorthwyo Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru i rannu eu negeseuon allweddol a’u canfyddiadau data’n effeithiol â chynulleidfa eang.
Rhaglen Cefnogi Pobl yn darparu gwasanaethau pwysig ond mae angen iddi wella Buddsoddodd Llywodraeth Cymru £124.5 miliwn yn ei Rhaglen Cefnogi Pobl (y Rhaglen) yn 2016-17, i gynorthwyo pobl sy'n agored i niwed mewn amrywiaeth o amgylchiadau i fyw mor annibynnol â phosibl. Er gwaethaf rhai gwelliannau, nid yw'r camau a gymerwyd i fynd i'r afael â phryderon hirsefydlog o ran y gwaith o'i chynllunio a'i chyflawni wedi bod yn effeithiol bob amser, bu'r cynnydd yn araf mewn rhai meysydd allweddol a cheir anghysondebau o ran rheoli'r Rhaglen ar lefel leol a rhanbarthol. Mae hyn yn ôl adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Gwendidau Llywodraethu wedi bygwth hygrededd prosiect tyrbin gwynt Sir Gaerfyrddin Buddsoddodd Llywodraeth Cymru £810,000 i helpu i adeiladu tyrbin gwynt CELT2 yn Sir Gaerfyrddin. Er bod y tyrbin yn gweithio’n llwyddiannus, mae nifer o wendidau llywodraethu wedi’u nodi, gan gynnwys rhai yn ymwneud â’r broses o reoli gwrthdaro buddiannau. Mae hyn yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Dull Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro o ddyfarnu contractau ymgynghori "yn llawer is na'r safonau disgwyliedig" Mae'r modd yr aeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro ati i gaffael a rheoli contractau ymgynghori AD yn llawer is na'r safon y mae gan y cyhoedd hawl i'w disgwyl gan gorff cyhoeddus. Dyna yw neges adroddiad, a gyhoeddwyd gan yr Archwilydd Cyffredinol er budd y cyhoedd heddiw.
Ymunwch â ni fel Cynorthwyydd y Gyfraith a Moeseg! Rydyn ni’n chwilio am Gynorthwyydd y Gyfraith a Moeseg rhan amser i ddarparu cyngor ac arweiniad cyfreithiol i Archwilydd Cyffredinol Cymru a staff Swyddfa Archwilio Cymru. Fe fyddwch yn cefnogi Pennaeth y Gyfraith a Moeseg wrth geisio cyngor cyfreithiol ar amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys enghreifftiau fel deddfwriaeth newydd yn ymwneud a chyrff cyhoeddus Cymru.
Llywodraeth Cymru yn defnyddio deddf cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) i sicrhau cynllunio gwell o ran gwasanaethau a chyllid Ers i Ddeddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) ddod i rym yn 2014, mae Llywodraeth Cymru wedi cynyddu'r gwariant arfaethedig ar iechyd, ond wedi parhau i ddibynnu ar gyllid ychwanegol i fynd i'r afael â phwysau a blaenoriaethau o fewn blwyddyn.
Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr yn symud i’r cyfeiriad cywir Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru a Phrif Weithredwr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi galw ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i barhau i roi “arweiniad egnïol, dewr ac amlwg” i adeiladu ar y cynnydd y mae eisoes wedi’i wneud o ran gwella gwasanaethau.
Ein Hadroddiad a Chyfrifon Blynyddol – helpu gwneud i arian cyhoeddus gyfrif Rydym wedi llwyddo i gyflawni y rhaglen gyfan o waith a draethwyd yn ein Cynllun Blynyddol ar gyfer 2016-17. Ymhlith ein cylch gwaith eang gwnaethom roi barn ar gyfrifon oddeutu 800 o gyrff cyhoeddus yng Nghymru a chyhoeddi 15 o adroddiadau cenedlaethol.
Oes gennych ddawn o ddenu pobl at ddeunydd rhagorol? Rydym yn edrych am Swyddog Cyfathrebu i helpu creu cynnwys sy’n denu diddordeb, megis blogiau, datganiadau i’r wasg, Testun i’r we, meicrowefannau a chylchlythyron gan deilwra’r iaith yn effeithiol yn ôl y gynulleidfa targed a sianel. Mae’r swydd fel arfer yn denu pwll cyfoethog ag amrywiol er mwyn cynghori a chynorthwyo gydag ymholiadau gan y cyhoedd, newyddiadurwyr a rhanddeiliaid eraill.