Seiber-gadernid yng Nghymru

15 Ionawr 2021
  • Hydref 2020 - Yn y gweminar hon, fe rannom y canfyddiadau sy'n dod i'r amlwg o'n hastudiaeth genedlaethol, eitemau o arfer da a thrafod dyfodol gwytnwch seiber yng Nghymru.

    Mae'r byd modern yn dibynnu fwyfwy ar dechnoleg ddigidol. Mae faint o ddata sy'n cael ei storio gan gyrff cyhoeddus yn tyfu, ac yn gynyddol, mae systemau cyfrifiadurol yn cyflawni swyddogaethau hanfodol mewn gwasanaethau cyhoeddus.

    Fodd bynnag, un o anfanteision y digideiddio cynyddol hwn yw'r bygythiad seiber cynyddol gan sefydliadau ac unigolion sy'n ceisio ymelwa ar hyn er eu budd ariannol neu wleidyddol eu hunain.

    Er mwyn amddiffyn eu hunain rhag ymosodiadau o'r fath, mae'n rhaid i gyrff cyhoeddus nid yn unig cynyddu eu seiber ddiogelwch, ond hefyd eu seiber-gadernid.

    Seiber-gadernid yw 'gallu cyffredinol systemau a sefydliadau i wrthsefyll seiber-ddigwyddiadau a’u goresgyn pan ddaw niwed ohonynt' (fel y diffiniwyd gan y Ganolfan Seiber Ddiogelwch Genedlaethol).

    Mae pandemig COVID-19 wedi pwysleisio ymhellach bwysigrwydd seiber-gadernid. Mae'r ddibyniaeth ar y rhyngrwyd wedi cynyddu yn ystod 2020, gyda niferoedd enfawr o weithwyr cyhoeddus a phreifat yn gweithio o bell, a chyda'r cyhoedd yn cynyddu eu defnydd o'r rhyngrwyd i gysylltu â ffrindiau a pherthnasau.

    Mae Archwilio Cymru yn cynnal astudiaeth genedlaethol ar seiber-gadernid yn y sector cyhoeddus yng Nghymru. Rydym wedi cynnal arolwg o tua 70 o sefydliadau yng Nghymru am eu hymagweddau at seiber-gadernid.