• Prentisiaeth

Prentisiaeth

Oes gennych chi ddiddordeb mewn ennill cyflog wrth ddysgu? Ydych chi'n chwilio am ddewis arall yn lle'r brifysgol ond gyda'r un rhagolygon hirdymor?

Yn Archwilio Cymru, rydym yn cynnig tair rhaglen wahanol i brentisiaid, pob un â chymysgedd unigryw o gyfleoedd dysgu.

Fel lle i weithio, rydyn ni ychydig yn wahanol.

Rydym wirioneddol yn gofalu am ein pobl ac yn cynnig diwylliant croesawgar ac amgylchedd sy'n annog cydbwysedd cadarnhaol rhwng bywyd a gwaith.

Rydym yn gweithio i roi sicrwydd i bobl Cymru bod arian cyhoeddus yn cael ei reoli'n dda, egluro sut mae arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio a sut mae'n diwallu anghenion pobl ac ysbrydoli a grymuso'r sector cyhoeddus yng Nghymru i wella. Rydym yn gwneud ymdrech i wneud i arian cyhoeddus gyfrif, ac i wneud gwahaniaeth i'n gwasanaethau cyhoeddus a'n cymunedau yng Nghymru.

View
  • Rhaglen Prentisiaethau Cyllid
  • Prentisiaeth Gwyddor Data
  • Applications currently closed
    Prentis Gweinyddu Busnes
Cymhwysedd ar gyfer yPrentisiaeth

I fod yn gymwys am brentisiaeth rhaid bodloni’r canlynol:

  • Mae gennych hawl i fyw a gweithio yn y DU;
  • Rydych yn byw yng Nghymru, neu mae eich cyflogwr wedi'i leoli'n barhaol yng Nghymru;
  • Rydych wedi gadael yr ysgol yn gyfreithiol;
  • Rydych yn bwriadu aros mewn cyflogaeth am y 12 mis nesaf;
  • Rydych heb gael eich ariannu eisoes ar gyfer cyrsiau hyfforddi eraill gan Lywodraeth Cymru;
  • Rydych yn cael yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol perthnasol;
  • Rydych yn gweithio mwy nag 16 awr yr wythnos.

Bydd Rhaglenni Prentisiaeth yn derbyn cymorth ariannol drwy Fframwaith Prentisiaethau Llywodraeth Cymru. Nid yw Llywodraeth Cymru yn cefnogi cymwysterau prentisiaeth lle mae gan unigolyn gymhwyster o'r un math, cynnwys a lefel yn flaenorol (nac ar lefel uwch). Ni ddylech ymgeisio am gymhwyster o'r un math, cynnwys a lefel â chymhwyster sydd gennych eisoes.

Fodd bynnag, pe bai'r brentisiaeth yn caniatáu i'r unigolyn ennill sgiliau newydd sylweddol, ac roedd yn amlwg bod cynnwys y cymhwyster yn sylweddol wahanol i unrhyw gymhwyster blaenorol, yna gallai prentisiaeth o'r fath fod yn gymwys i gael arian.

Fel rhan o'r broses recriwtio bydd eich manylion yn cael eu rhannu gyda darparwr hyfforddiant y brentisiaeth. Mae'r darparwyr hyfforddiant yn rhan annatod o'r broses recriwtio gan eu bod yn gyfrifol am gadarnhau cymhwysedd ymgeiswyr i ymgymryd â'r brentisiaeth yn unol â Fframwaith Prentisiaethau Llywodraeth Cymru. Wrth gytuno i barhau â'r broses ymgeisio, rydych yn cytuno i rannu eich manylion gyda'r darparwr hyfforddiant.

Os ydych yn ansicr a ydych yn gymwys ar gyfer rhaglen, mae croeso i chi gysylltu â AdnoddauDynol.Cyflogres@archwilio.cymru gan nodi'n glir y cymwysterau sydd gennych eisoes.

Noder nad yw'r canllawiau a roddir uchod yn ystyried pob amgylchiad ac mae Archwilio Cymru yn cadw'r hawl i wrthod cais os yw o'r farn nad yw unrhyw feini prawf cymhwysedd wedi'u bodloni.

Rhaglen Prentisiaeth Cyllid 

Nid yw unigolyn sydd eisoes yn dal cymhwyster cyllid neu gyfrifo lefel 4 (neu uwch) yn gymwys i wneud cais am y Rhaglen Prentisiaethau Cyllid. Mae enghreifftiau o gymwysterau o'r fath yn cynnwys AAT lefel 4; gradd cyfrifyddiaeth, HNC neu HND; neu gymhwyster cyfrifyddu lefel uwch a ddyfarnwyd gan un o'r sefydliadau cyfrifyddu. Mae'r brentisiaeth hon wedi'i hanelu at y rhai sydd heb unrhyw gymwysterau cyllid blaenorol, fodd bynnag lle mae gan ymgeisydd gymhwyster AAT lefel 2, byddwn yn ystyried yr ymgeiswyr hynny. Pan fydd unigolion yn llwyddiannus sydd eisoes âchymhwyster AAT lefel 2, caiff rhaglen brentisiaeth dwy flynedd ei gynnig iddynt. Nid yw ymgeiswyr Lefel 3 AAT yn gymwys i wneud cais.

Lle'r oedd cymhwyster blaenorol yn cynnwys rhai elfennau cyllid neu gyfrifyddu ar lefel 2 neu'n uwch, ond nad oedd yn gymhwyster cyllid neu gyfrifyddu yn unig, byddai angen ystyried cymwysterau o'r fath ar gyfer cymhwysedd fesul achos.

Byddai disgwyl i gymwysterau mewn pynciau rhifiadol eang megis mathemateg, ystadegau, fodloni'r gofynion o ran bod yn gymwys.

Prentisiaeth Gwyddor Data

O ran pa gymwysterau sydd y tu allan i feini prawf i fod yn gymwys, byddem yn cynghori bod unrhyw gymhwyster "Gwyddorau Data" neu "Gyfrifiadureg" ar lefel gradd neu uwch yn anghymwys. Bydd angen ystyried hefyd unrhyw gymwysterau sy'n cynnwys modiwlau dadansoddi data/gwyddor data neu gyfrifiadureg i lefel 4 er mwyn gwirio cymhwysedd i ariannu. Bydd yr holl gymwysterau'n cael eu gwirio fesul achos yn ystod y cam sifftio.

Prentis Gweinyddu Busnes

Lle'r oedd cymhwyster blaenorol yn cynnwys rhai elfennau gweinyddu busnes ar lefel 2 neu'n uwch, ond nad oedd yn gymhwyster gweinyddu busnes yn unig, byddai angen ystyried cymwysterau o'r fath ar gyfer cymhwysedd fesul achos.

Sut iwneud cais

Rydym ond yn derbyn ceisiadau drwy ein porth ar-lein, ond os ydych am i ni ystyried addasiad rhesymol rhowch wybod i ni mewn da bryd.

Wrth gwblhau eich cais

Ymgyfarwyddwch eich hun gyda'r Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, fel eich bod yn deall y swydd a pha gymwysterau, sgiliau a phriodoleddau hanfodol sydd yno ar gyfer y swydd prentis.

Rydym yn chwilio am sut mae eich astudiaethau a/neu brofiad blaenorol mewn gwaith neu ddiddordebau allanol yn eich gwneud yn addas i ddechrau gyrfa fel prentis.

Sicrhewch eich bod yn cynnwys tystiolaeth o:

  • Eich cymwysterau presennol sy’n bodloni'r safon addysgol ofynnol.
  • Yn eich llythyr eglurhaol rydym am gael gwybod amdanoch chi, pam bod gennych ddiddordeb yn y prentisiaeth a beth sy’n eich diddori a beth rydych wedi’i gyflawni hyd yma, boed hynny mewn gwaith, yn yr ysgol neu goleg neu drwy chwaraeon neu wirfoddoli, profiadau neu ymddygiadau sydd gennych a fyddai, yn eich barn chi, yn eich gwneud yn addas ar gyfer y swydd.

Sylwer – defnyddir y ffurflen gais i asesu pob ymgeisydd.  Gall methu â chwblhau'r cais yn fanwl olygu na fydd eich cais yn symud ymlaen i'r cam asesu. Rydym yn argymell eich bod yn ymgyfarwyddo eich hun gyda'r Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person, fel eich bod yn deall y swydd a pha gymwysterau, sgiliau a phriodoleddau hanfodol rydym yn chwilio amdanynt.

Canolfan Asesu

Bydd pob proses asesu prentisiaid yn cael ei chwblhau gan ganolfan asesu. Bydd canolfan asesu fel arfer yn cynnwys cyfweliad a chwblhau rhyw fath o brawf, gan amlaf ysgrifenedig neu drwy chwarae rôl. Bydd rhagor o wybodaeth am y cam hwn yn cael ei darparu yn nes at yr amser.

Darperir adborth i bob ymgeisydd sy'n mynychu canolfan asesu.

Gwybodaeth gyswllt

Os oes gennych unrhyw gwestiynau am ein Rhaglen Brentisiaethau, neu os bydd unrhywbeth yn aneglur, mae croeso i chi ebostio AdnoddauDynol.Cyflogres@archwilio.cymru.

Darganfyddwch sut brofiad yw gweithio yn Archwilio CymruDarllen mwy  

Graduate Blogs