Paned a Sgwrs - Robyn Lovelock Ydych chi yn gyfrifol am gomisiynu adeiladau neu isadeiledd? Neu â diddordeb dysgu mwy am sut mae prosiectau o’r fath yn digwydd? Wel, ar Fai 25ain 2023 mae gennym rywun difyr gyda rhywbeth difyr i chi! Mae 50% o allyriadau carbon y DU yn deillio o adeiladu ac isadeiledd, ac mae eu hadeiladu hefyd yn cyfrannu at leihau bioamrywiaeth a difodiant rhywogaethau.
Uwch Archwilydd Iechyd Ydych chi’n frwdfrydig dros wneud gwahaniaeth a sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn cael eu rhedeg yn gywir ar gyfer pobl Cymru? Os felly, rydym am recriwtio uwch archwilwyr i ymuno â'n Grŵp Archwilio Perfformiad yn Archwilio Cymru. Ar hyn o bryd mae gennym swydd barhaol, llawn amser a swydd dymor penodol, llawn amser ar gael yn ein tîm archwilio perfformiad Iechyd.
Paned a Sgwrs - Gemma Lelliott Gemma Lelliott yw Cyfarwyddwr Cymru ar gyfer y Gymdeithas Trafnidiaeth Gymunedol ac mae'n gweithio i gefnogi Cymdeithasau Teithio Cymunedol yng Nghymru trwy ddarparu gwybodaeth, eiriolaeth, hyfforddiant a chynnal lle i aelodau ddod at ei gilydd.