Shared Learning Seminar
Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu - Y Gogledd

Dathliad o’r Gymru fodern trwy yr hunaniaethau, ieithoedd a phrofiadau sydd yn plethu ynghyd mewn un genedl â sawl gwedd ar Gymreictod.

Ynglŷn â'r digwyddiad hwn

Cymru â Diwylliant Bywiog lle mae’r Gymraeg yn Ffynnu

Cymdeithas sy'n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a'r iaith Gymraeg, ac sy'n annog pobl i ddod yn rhan o’u cymunedau lleol.

Mae’r Gymru fodern yn wlad â chyfoeth o gymunedau amrywiol, aml-ieithol a chymdeithas sy’n hybu a gwarchod diwylliannau Cymru, gan gynnwys yr iaith Gymraeg. Cymdeithas sy’n annog pobl i fod yn weithgar yn eu cymunedau trwy gelf, chwaraeon, addysg a hamdden.

Ymunwch â ni i ddathlu’r ffurfiau gwahanol ar Gymreictod yn y Gymru fodern, gan archwilio sut mae cymunedau yn cyfrannu at 'Gymru â diwylliant bywiog lle mae’r Gymraeg yn ffynnu'.

Wedi'i ysbrydoli gan daith Cymdeithas Bêl-droed Cymru dros y ddegawd ddiwethaf, bydd y digwyddiad hwn yn edrych ar sut mae mynd y tu hwnt i'r gofynion yn creu agwedd gadarnhaol a chynhwysol sy’n lluosogi llwyddiant.

Gan weithio mewn partneriaeth â Chomisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol a Chomisiynydd y Gymraeg, bydd y digwyddiad hwn yn cynorthwyo ac yn ysbrydoli cyrff cyhoeddus i gofleidio amrywiaeth ddiwylliannol Cymru fodern a gweithio y tu hwnt i gydymffurfio a thuag at ragoriaeth.

Mwy o Wybodaeth

Ian Gwyn Hughes yn trafod taith Cymdeithas Bêl Droed Cymru wrth iddynt ddod a’r Gymraeg i fod yn rhan ganolog, naturiol o’u hunaniaeth. Bydd hefyd yn cynnal gweithdy er mwyn edrych yn ddyfnach a pharhau’r sgwrs.

Bydd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, Efa Gruffydd, Comisiynydd y Gymraeg a Sian Lewis, Prif Weithredwr Yr Urdd yn cymryd rhan mewn trafodaeth banel ac yn barod i ymateb i’ch cwestiynau chi o dan ofal cadeiryddol Einir Siôn, Ysgogydd y Gymraeg, Cyngor Celfyddydau Cymru. Bydd Einir hefyd yn gweithredu fel prif wrandawr.

Swyddfa Comisiynydd y Gymraeg yn cynnal gweithdy ar hyrwyddo’r Gymraeg yn gymunedol gyda Cyngor Môn, ac yn fewnol gyda Llywodraeth Cymru.

Yr Urdd yn cyflwyno’r ffordd maent yn cynnig cyfleoedd i blant a phobl ifanc Cymru gan gynnwys croesawu ffoaduriaid.

Amgueddfa Cymru ar Ddadgoloneiddio eu casgliadau, ac ymdrin â hanes Cymru wrth edrych ar y presennol a’r dyfodol.

CPD Wrecsam ar eu gwaith cymunedol, a sut mae Cymreictod yn greiddiol i’w hunaniaeth.

Ble a phryd

0900 - 1300
Dydd Mawrth 23 Mai 2023
Venue Cymru, Llandudno, LL30 1BB

Cysylltu â’r Gyfnewidfa Arfer Da 

I gofrestru, llenwch ein ffurflen archebu ar-lein. Rydym yn darparu hysbysiad preifatrwydd i gynrychiolwyr [agorir mewn ffenest newydd], gan ddweud wrthych sut rydym yn delio â'ch data personol fel rhan o'r broses ymrestru. 

Dosberthir cyfarwyddiadau ymuno mewn da bryd cyn y digwyddiad. Sicrhewch eich bod yn darparu eich cyfeiriad e-bost wrth archebu lle i sicrhau y gallwn anfon manylion atoch. 

Am fwy o fanylion am y digwyddiad, anfonwch e-bost at arferda@archwilio.cymru 

Os hoffech gael eich hysbysu, cofrestrwch a dilynwch y digwyddiad hwn

Bydd rhagor o wybodaeth am y digwyddiad hwn yn cael ei ychwanegu yn fuan