Heriau sylfaenol yn parhau ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ȏl adroddiad ar y cyd ar drefniadau llywodraethu a rheoli Darllen mwy about Heriau sylfaenol yn parhau ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn ȏl adroddiad ar y cyd ar drefniadau llywodraethu a rheoli Mae’r adroddiad, sy’n ddarn o waith ar y cyd rhwng Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru (SAC), yn rhoi adroddiad cynnydd ar yr heriau corfforaethol, clinigol ac ariannol sy’n wynebu’r Bwrdd Iechyd yn dilyn adroddiad a gyhoeddwyd y llynedd a ganfu ddiffygion mewn trefniadau llywodraethu a rheoli.
Archwilydd Cyffredinol yn rhoi amod ar gyfrifon tri o gyrff y GIG yng Nghymru Darllen mwy about Archwilydd Cyffredinol yn rhoi amod ar gyfrifon tri o gyrff y GIG yng Nghymru Ac, am y tro cyntaf ers ad-drefnu’r GIG yn 2009-10, mae wedi rhoi amod ar ei farn ar gyfrifon tri Bwrdd Iechyd am dorri eu terfynau gwario cymeradwy – Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Bwrdd Iechyd Addysgu Powys. Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas:
Swyddfa Archwilio Cymru yn cefnogi ysgol haf gwasanaethau cyhoeddus Darllen mwy about Swyddfa Archwilio Cymru yn cefnogi ysgol haf gwasanaethau cyhoeddus Cynhelir yr ysgol haf flynyddol eleni ym Mhrifysgol Llanbedr Pont Steffan a'r flwyddyn hon mae’n dilyn y thema ‘Ymddiriedaeth – Sylfaen Llwyddiant’. Mae'r digwyddiad yn gyfle gwych i arweinwyr a rheolwyr gwasanaethau cyhoeddus ddysgu a myfyrio ar eu harweinyddiaeth eu hunain a hefyd dysgu oddi wrth bobl eraill. I ddarganfod mwy am yr ysgol haf [Agorir mewn ffenest newydd].
Archwilydd Cyffredinol yn anerch arweinwyr Llywodraeth Leol ynglŷn â'r her o newid yn y ddeng mlynedd nesaf Darllen mwy about Archwilydd Cyffredinol yn anerch arweinwyr Llywodraeth Leol ynglŷn â'r her o newid yn y ddeng mlynedd nesaf Yn y gynhadledd 'Cyngor 2025 - Gweledigaeth ar gyfer Llywodraeth Leol yng Nghymru' roedd yr Archwilydd Cyffredinol yn sôn am yr heriau a wynebir gan Lywodraeth Leol yn sgîl yr adroddiadau Williams a Silk a hefyd am bwysigrwydd parchu cymunedau cyfredol yng Nghymru wrth inni edrych at ad-drefnu gwasanaethau sy'n addas ar gyfer y dyfodol.
Tîm o staff yn barod am Her Tri Chopa Cymru Darllen mwy about Tîm o staff yn barod am Her Tri Chopa Cymru Mae’r daith, fydd yn cynnwys mynyddoedd Yr Wyddfa yn y Gogledd, Cadair Idris yng Nghanolbarth Cymru, a Phen y Fan yn y De, i gyd er mwyn codi arian at yr elusen Changing Faces, a ddewiswyd gan aelodau o staff yn y gynhadledd flynyddol y llynedd. Mae’r tîm eisoes wedi codi £2,061 a hoffem ddymuno llongyfarchiadau a phob lwc i’r tîm wrth iddyn nhw ddringo 30km mewn un diwrnod!
Y Fenter Twyll Yn Nodi £4 Miliwn O Achosion O Dwyll A Gordaliadau Yng Nghymru Darllen mwy about Y Fenter Twyll Yn Nodi £4 Miliwn O Achosion O Dwyll A Gordaliadau Yng Nghymru Gyda gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu eu her fwyaf ers cenhedlaeth ac yn wynebu gostyngiadau sylweddol o ran cyllidebau mewn termau real yn ystod y blynyddoedd nesaf, mae bellach yn hanfodol bod cyrff cyhoeddus yn gweithio i gael gwared ar wastraff ac aneffeithlonrwydd o fewn eu gwasanaethau presennol. Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, heddiw:
Swyddfa Archwilio Cymru yn ymgynghori â grwpiau cydraddoldeb cynrychioliadol Darllen mwy about Swyddfa Archwilio Cymru yn ymgynghori â grwpiau cydraddoldeb cynrychioliadol Yr wythnos hon mae aelodau o Swyddfa Archwilio Cymru yn cwrdd â llu o grwpiau allanol i drafod ffyrdd o wella sut y gall ymgorffori ystyriaethau cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein gwaith o ddydd i ddydd. Dywedodd y Cyfarwyddwr, Paul Dimblebee, sydd wedi trefnu’r digwyddiad hwn:
Cynghorau Cymru yn herio'u hunain yn well ond angen mwy o gysondeb er mwyn gwella atebolrwydd Darllen mwy about Cynghorau Cymru yn herio'u hunain yn well ond angen mwy o gysondeb er mwyn gwella atebolrwydd Mae trefniadau craffu llywodraeth leol yng Nghymru yn gwella ond mae angen i gynghorau weithredu'n fwy cyson os ydynt am ychwanegu gwerth ar ran y trethdalwr, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod angen i gynghorau wneud mwy i ddangos effaith gwaith craffu ac egluro'r rôl a chwaraeir gan bwyllgorau craffu o ran hyrwyddo gwelliannau a herio penderfyniadau.
Cyngor Conwy Yn Cael Ei Reoli A'i Lywodraethu'n Dda Yn Gyffredinol Darllen mwy about Cyngor Conwy Yn Cael Ei Reoli A'i Lywodraethu'n Dda Yn Gyffredinol Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn dod i'r casgliad bod y Cyngor yn cael ei reoli a'i lywodraethu’n dda yn gyffredinol a bod ganddo record o welliant cyson, ond mae ganddo lawer i'w wneud i gyflawni'r arbedion angenrheidiol yn y dyfodol.
Archwilydd Cyffredinol yn annerch cynghorau tref ar bwysigrwydd llywodraethu da Darllen mwy about Archwilydd Cyffredinol yn annerch cynghorau tref ar bwysigrwydd llywodraethu da Yn y gynhadledd, oedd â’r teitl ‘Ensuring strong and effective financial governance in Community and Town Councils’, a gynhaliwyd ar 15fed o Fai yn Venue Cymru, siaradodd yr Archwilydd Cyffredinol am yr angen am well llywodraethu a'r rôl y bydd Swyddfa Archwilio Cymru’n ei chwarae wrth helpu cynghorau tref a chlercod i fodloni eu gofynion cyfrifyddu blynyddol. Prif Araith [PDF 91KB Agorir mewn ffenest newydd]