Y Fenter Twyll Yn Nodi £4 Miliwn O Achosion O Dwyll A Gordaliadau Yng Nghymru Gyda gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn wynebu eu her fwyaf ers cenhedlaeth ac yn wynebu gostyngiadau sylweddol o ran cyllidebau mewn termau real yn ystod y blynyddoedd nesaf, mae bellach yn hanfodol bod cyrff cyhoeddus yn gweithio i gael gwared ar wastraff ac aneffeithlonrwydd o fewn eu gwasanaethau presennol. Dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas, heddiw:
Swyddfa Archwilio Cymru yn ymgynghori â grwpiau cydraddoldeb cynrychioliadol Yr wythnos hon mae aelodau o Swyddfa Archwilio Cymru yn cwrdd â llu o grwpiau allanol i drafod ffyrdd o wella sut y gall ymgorffori ystyriaethau cydraddoldeb ac amrywiaeth yn ein gwaith o ddydd i ddydd. Dywedodd y Cyfarwyddwr, Paul Dimblebee, sydd wedi trefnu’r digwyddiad hwn:
Cynghorau Cymru yn herio'u hunain yn well ond angen mwy o gysondeb er mwyn gwella atebolrwydd Mae trefniadau craffu llywodraeth leol yng Nghymru yn gwella ond mae angen i gynghorau weithredu'n fwy cyson os ydynt am ychwanegu gwerth ar ran y trethdalwr, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae'r adroddiad hefyd yn nodi bod angen i gynghorau wneud mwy i ddangos effaith gwaith craffu ac egluro'r rôl a chwaraeir gan bwyllgorau craffu o ran hyrwyddo gwelliannau a herio penderfyniadau.
Cyngor Conwy Yn Cael Ei Reoli A'i Lywodraethu'n Dda Yn Gyffredinol Mae adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn dod i'r casgliad bod y Cyngor yn cael ei reoli a'i lywodraethu’n dda yn gyffredinol a bod ganddo record o welliant cyson, ond mae ganddo lawer i'w wneud i gyflawni'r arbedion angenrheidiol yn y dyfodol.
Archwilydd Cyffredinol yn annerch cynghorau tref ar bwysigrwydd llywodraethu da Yn y gynhadledd, oedd â’r teitl ‘Ensuring strong and effective financial governance in Community and Town Councils’, a gynhaliwyd ar 15fed o Fai yn Venue Cymru, siaradodd yr Archwilydd Cyffredinol am yr angen am well llywodraethu a'r rôl y bydd Swyddfa Archwilio Cymru’n ei chwarae wrth helpu cynghorau tref a chlercod i fodloni eu gofynion cyfrifyddu blynyddol. Prif Araith [PDF 91KB Agorir mewn ffenest newydd]
Gofyn Am Brofiadau Cleifion a Pherthnasau o Amseroedd Aros y GIG Gofynnir i gleifion a pherthnasau i rannu eu profiadau o aros am lawdriniaethau wedi'u cynllunio. Bydd arolwg Swyddfa Archwilio Cymru, sy'n cael ei lansio heddiw, yn casglu profiadau cleifion o bob cwr o'r wlad i helpu i werthuso sut y mae'r GIG yng Nghymru yn rheoli amseroedd aros. Heddiw, dywedodd Archwilydd Cyffredinol Cymru, Huw Vaughan Thomas:
Archwilydd Cyffredinol yn Archwilio i Fuddsoddiad Llywodraeth Cymru Mewn Band Eang Mae’r archwiliad yn rhan o’i raglen o adolygiadau gwerth am arian a bydd yn ateb y cwestiwn: "Yw dull gweithredu Llywodraeth Cymru o gyflwyno seilwaith band eang i aelwydydd a busnesau yn debygol o gyflawni’r buddiannau a fwriadwyd?"
Trefniadau Rheoli Rhaglenni Diweddaraf Cronfeydd Strwythurol yr Undeb Ewropeaidd yng Nghymru ‘Wedi Gwella’ Mae rhaglenni cyllid strwythurol yr UE 2007-2013 - sy’n helpu i sicrhau swyddi, twf a datblygiad cynaliadwy - wedi gwneud cynnydd da o gymharu â rhaglenni blaenorol. Ond, mae’n rhy gynnar i asesu’r effaith gyffredinol. Canfu adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, er gwaethaf rhai anawsterau yn y camau cychwynnol, fod y rhaglenni 2007-2013 wedi elwa yn sgil gwell trefniadau rheoli. Ac er nad yw effaith gyffredinol y rhaglenni yn gwbl amlwg am beth amser ôl iddynt ddod i ben, gwelir arwyddion cadarnhaol yn sgil gwerthusiadau parhaus.
Gwendidau Difrifol Wrth Roi Arian Grant I Ganolfan Cywain Wrth roi arian grant i Ganolfan Cywain, atyniad treftadaeth gwledig i dwristiaid yn y Gogledd, ni wnaeth Llywodraeth Cymru na chyllidwyr eraill y sector cyhoeddus herio’n ddigonol y rhagdybiaethau diffygiol ynglŷn â’r incwm y byddai’r Ganolfan yn ei greu a’r diffyg eglurder ynglŷn â’r hyn yr oedd y Ganolfan i fod i’w gynnig. Roedd y cyllidwyr hefyd wedi methu rhoi’r camau priodol ar waith i leihau’r perygl y byddai’r Ganolfan yn methu. Dyma brif ganfyddiadau adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol a gyhoeddir heddiw.
Prawf bod model Archwilio Cymru yn llwyddo i ddilyn hynt arian cyhoeddus yn effeithiol ar draws haenau llywodraeth Mae cysondeb trefniadau archwilio'r wlad o fudd i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru, meddai Huw Vaughan Thomas, Archwilydd Cyffredinol Cymru mewn adroddiad newydd gan ACCA (Cymdeithas y Cyfrifwyr Ardystiedig Siartredig) o'r enw Breaking out: public audit’s new role in a post-crash world [PDF 445KB Agorir mewn ffenest newydd].