Proses Cyngor Caerffili O Brynu Lwfansau Ceir a Gwyliau yn 'Anghyfreithlon' Gweithredodd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili yn anghyfreithlon pan dalodd ei Brif Swyddogion i 'brynu' eu hawliau i Lwfans Defnyddiwr Car Hanfodol (ECUA) a Lwfans Gwyliau Blynyddol (ALA). Mae Anthony Barrett, yr Archwilydd Penodedig, wedi cyhoeddi adroddiad er mwyn tynnu sylw'r cyhoedd at fethiant mewn trefniadau llywodraethu yn y Cyngor ac at ddiffygion yn y prosesau a fabwysiadodd wrth wneud y taliadau hyn.
Swyddfa Archwilio Cymru'n adolygu ei chynnydd mewn perthynas â chydraddoldeb Tra canolbwyntiodd adroddiad cynnydd cyntaf Swyddfa Archwilio Cymru ar bennu amcanion cydraddoldeb a gwneud trefniadau i gasglu gwybodaeth berthnasol, mae'r adroddiad hwn yn canolbwyntio ar sut rydym wedi dechrau integreiddio ein gwaith cydraddoldeb yn ein polisïau a'n harferion gwaith.
Cyfrifon Ariannol Cynghorau a Chyrff Heddluoedd Cymru Mae ansawdd cyfrifon ariannol llywodraeth leol, a gyflwynir bob blwyddyn i Archwilydd Cyffredinol Cymru, yn gwella ar y cyfan - a chyflwynwyd yr holl gyfrifon erbyn y dyddiad cau, sef 30 Mehefin. Ond, er i welliant gael ei weld yn y flwyddyn ariannol hon, o gymharu â chyfrifon 2011/12, mae pethau wedi gwaethygu i rai cynghorau - yn arbennig mewn meysydd â gofynion cyfrifyddu cymhleth, megis eiddo, offer a chyfarpar.
Comisiwn Coedwigaeth Cymru mewn sefyllfa dda i wynebu'r dyfodol Mae Comisiwn Coedwigaeth Cymru wedi dilyn argymhellion archwiliadau blaenorol ac wedi datblygu blaenoriaethau clir a phriodol. Mae hefyd wedi gwella ei brosesau craidd megis caffael a rheoli grantiau a risgiau, ac mae bellach yn gwneud cynnydd da wrth gyflawni disgwyliadau ei gwsmeriaid pren masnachol. Fodd bynnag, mae bylchau cynllunio mewn meysydd fel cynllunio gofodol, cynllunio'r gweithlu a chynllunio ariannol yn llesteirio cynnydd, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.
Llai o wariant ar ymgynghorwyr ond amheuaeth ynglyn â gwerth am arian Yn 2010-11 gwariwyd £133 miliwn ar ymgynghorwyr gan gyrff cyhoeddus, sef £40 miliwn yn llai nag yn 2007-08. Ym mhob sector - llywodraeth leol, iechyd a Llywodraeth Cymru - cofnodwyd gostyngiadau sylweddol mewn gwariant. Ond er gwaethaf y gostyngiadau hyn, ychydig iawn o gyrff cyhoeddus a oedd yn gallu dangos bod eu gwariant yn adlewyrchu gwerth da am arian. Mae hyn yn bennaf oherwydd data annigonol, dim digon o gydweithredu a methiant i fabwysiadu arferion da cydnabyddedig.
Contract meddygon ymgynghorol y GIG yn methu â sicrhau'r manteision a fwriadwyd Ym mis Rhagfyr 2003, cyflwynwyd contract diwygiedig i feddygon ymgynghorol y GIG yng Nghymru gyda'r bwriad o sicrhau nifer o fanteision i feddygon ymgynghorol a'r GIG yn gyffredinol. Rhwng 2004 a 2011 gwariwyd £35m ar weithredu'r contract newydd a oedd yn anelu at wella amgylchedd gwaith meddygon ymgynghorol, gwella prosesau recriwtio a chadw, ac annog cydweithredu rhwng rheolwyr iechyd a meddygon ymgynghorol er mwyn darparu gwasanaeth gwell i gleifion. Roedd cynllunio swyddi'n effeithiol ar gyfer meddygon ymgynghorol yn ganolog i sicrhau'r manteision hyn.
Trefn Cyngor Caerffili ar gyfer pennu cyflog uwch-swyddogion yn 'anghyfreithlon' Mae adroddiad er budd y cyhoedd ynghylch y prosesau a fabwysiadwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili er mwyn pennu cyflog prif swyddogion wedi'i gyhoeddi heddiw. Bu'r adroddiad yn ystyried a oedd yr awdurdod lleol wedi gweithredu'n briodol wrth wneud penderfyniad ym mis Medi 2012 i gynyddu cyflog ei brif swyddogion.
Yr Archwilydd cyffredinol yn cyhoeddi Adroddiad Gwella Blynyddol ar Gyngor Casnewydd Mae'r adroddiad ar gael yn llawn ar ein gwefan a gellir ei weld drwy glicio ar y ddolen uchod. Yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill 2013, caiff adroddiadau Gwella Blynyddol eu cyhoeddi ar gyfer pob un o'r 28 o awdurdodau lleol, sy'n cynnwys cynghorau lleol, Parciau Cenedlaethol a gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru. Mae'r adroddiadau yn ystyried sut mae awdurdodau lleol yn cynllunio ar gyfer gwella a darparu eu gwasanaethau.
Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru Gellir gweld yr ymateb yn llawn ar y dudalen Ymgynghoriadau.
Yr Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi Adroddiad Gwella Blynyddol ar Gyngor Sir Gâr Yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill 2013, caiff adroddiadau Gwella Blynyddol eu cyhoeddi ar gyfer pob un o'r 28 o awdurdodau lleol, sy'n cynnwys cynghorau lleol, Parciau Cenedlaethol a gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru. Mae'r adroddiadau yn ystyried sut mae awdurdodau lleol yn cynllunio ar gyfer gwella a darparu eu gwasanaethau. Mae'r Archwilydd Cyffredinol hefyd wedi defnyddio gwaith arolygiaethau perthnasol eraill yng Nghymru, Estyn, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru; ynghyd â gwaith a wnaed ar ran Swyddfa Archwilio Cymru, wrth baratoi'r adroddiad hwn.