Yr Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi Adroddiad Gwella Blynyddol ar Ddinas a Sir Abertawe

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 15:41

Yn ystod mis Mawrth a mis Gorffennaf 2013, caiff Adroddiadau Gwella Blynyddol eu cyhoeddi ar gyfer pob un o'r 28 o awdurdodau lleol, sy'n cynnwys cynghorau lleol,
parciau cenedlaethol a gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru. Mae'r adroddiadau yn ystyried sut mae awdurdodau lleol yn cynllunio ar gyfer gwella a darparu eu gwasanaethau.

Yr Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi Adroddiad Gwella Blynyddol ar Gyngor Castell-nedd Port Talbot

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 15:41

Caiff adroddiadau Gwella Blynyddol eu cyhoeddi ar gyfer pob un o'r 28 o awdurdodau lleol, sy'n cynnwys cynghorau lleol, parciau cenedlaethol a gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru. Mae'r adroddiadau yn ystyried sut mae awdurdodau lleol yn cynllunio ar gyfer gwella a darparu eu gwasanaethau.

Mae'r Archwilydd Cyffredinol hefyd wedi defnyddio gwaith arolygiaethau perthnasol eraill yng Nghymru, Estyn, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru; ynghyd â gwaith a wnaed ar ran Swyddfa Archwilio Cymru, wrth baratoi'r adroddiad hwn.

Cyrff y GIG yng Nghymru yn llwyddo i fantoli'r gyllideb yn 2012-13

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 15:41

Llwyddodd cyrff y GIG i gyrraedd eu targedau ariannol statudol yn 2012-13 er gwaethaf setliad ariannol anodd ond nid yw rhai o'r camau gweithredu a gymerwyd er mwyn mantoli'r gyllideb yn gynaliadwy, yn ôl adroddiad a gyhoeddwyd heddiw.

Swyddfa Archwilio Cymru yn canolbwyntio ar helpu gwasanaethau cyhoeddus i wella

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 15:41

Mae adroddiad blynyddol a chyfrifon Archwilydd Cyffredinol Cymru ar gyfer 2012-13, a gyhoeddir heddiw, yn nodi'r rhaglen sylweddol o waith archwilio ariannol a pherfformiad annibynnol y mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi'i chyflawni.

Mae helpu gwasanaethau i wella eu safonau llywodraethu a rheoli ariannol, sy'n bryderon allweddol ymhlith y cyhoedd, yn ganolog i'n harchwiliadau ac mae'r adroddiad yn tynnu sylw at ddarparwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru sydd wedi ymateb mewn ffordd galonogol i argymhellion ein harchwiliadau dros y flwyddyn ddiwethaf.

 

Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cyhoeddi'i Adroddiad Gwella Blynyddol 2012-13 ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 15:41

Heddiw cyhoeddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru ei Adroddiad Gwella Blynyddol ar Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, gan ddweud: 'Er bod gwendidau yn ei drefniadau hunanwerthuso, ac er bod gwelliant mewn rhai meysydd blaenoriaeth allweddol yn araf, mae'r Cyngor wedi gwneud rhai gwelliannau i'w wasanaethau.

Angen Gwelliant Parhaus i Fynd i'r Afael â'r Pwysau ar Wasanaethau Gofal Heb Ei Drefnu

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 15:41

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf gwelwyd dirywiad cyffredinol mewn perfformiad yn erbyn y prif dargedau gwasanaeth, ond mae'r data mwyaf diweddar yn dangos gwelliannau calonogol y mae angen eu cynnal. Dyma gasgliadau adroddiad a gyhoeddwyd heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Gormod o gynghorau tref a chymuned Cymru yn dal i fethu bodloni'r safonau ariannol

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 15:41

Mae Archwilwyr yn dal i ganfod gwendidau cyffredin a sylfaenol yn nhrefniadau llywodraethu a rheolaeth ariannol sawl Cyngor Tref a Chymuned ledled Cymru.

Yn ôl adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru a gaiff ei gyhoeddi heddiw, mae cyfrifon lleol yn aml yn cael eu cyflwyno'n hwyr i'w harchwilio ac mae ansawdd llawer ohonynt yn wael.

Absenoldeb athrawon yn llesteirio cynnydd disgyblion

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 15:41

Yn ôl adroddiadau a gyhoeddir gan Swyddfa Archwilio Cymru ac Estyn heddiw, nid yw trefniadau cyflenwi ar gyfer absenoldeb athrawon yn ysgolion Cymru yn  gwneud digon i sicrhau cynnydd dysgwyr ac nid ydynt yn gwneud y defnydd gorau posibl o adnoddau chwaith.

Mae tîm o Estyn a Swyddfa Archwilio Cymru wedi ymweld â 23 ysgol gynradd ac uwchradd, a chyfarfod â dysgwyr, penaethiaid ac athrawon cyflenwi. Maent hefyd wedi cynnal arolygon a chyfweliadau, a dadansoddi data. 

Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cyhoeddi adroddiad asesu corfforaethol ar awdurdod lleol Cyngor Dinas Casnewydd

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 15:41

Mae'n adeg dyngedfennol i Gyngor Dinas Casnewydd wrth iddo ddechrau mynd i'r afael â gwendidau hirsefydledig yn y ffordd y mae'n cynllunio ar gyfer gwelliant. Dyna gasgliad adroddiad a gyhoeddir heddiw gan Archwilydd Cyffredinol Cymru. Yn ôl ei adroddiad Asesu Corfforaethol, o sicrhau perchenogaeth ehangach a mwy o gapasiti, mae gan y Cyngor y potensial i gyflawni newidiadau ar y raddfa a'r cyflymder sydd eu hangen.

Llywodraeth leol Cymru yn gwella'i threfniadau ar gyfer cynllunio, darparu ac adrodd ar welliannau

Ie
Dydd Mawrth, Medi 12, 2023 - 15:41

Mae Cynghorau, Parciau Cenedlaethol ac Awdurdodau Tân ac Achub Cymru yn gwella eu trefniadau o ran cysylltu'r hyn y maent am ei gyflawni â'u cynlluniau a'u hadnoddau, ac mae rhai yn cyflwyno darlun clir a didwyll i bobl leol. Ond, yn ôl adroddiad gan Archwilydd Cyffredinol Cymru a gyhoeddir heddiw, mae gwybodaeth wael yn ei gwneud hi'n anodd iddynt fod yn siwr eu bod yn deall eu perfformiad eu hunain yn ddigon da i fynd i'r afael â'r heriau sy'n eu hwynebu.