Contract meddygon ymgynghorol y GIG yn methu â sicrhau'r manteision a fwriadwyd Ym mis Rhagfyr 2003, cyflwynwyd contract diwygiedig i feddygon ymgynghorol y GIG yng Nghymru gyda'r bwriad o sicrhau nifer o fanteision i feddygon ymgynghorol a'r GIG yn gyffredinol. Rhwng 2004 a 2011 gwariwyd £35m ar weithredu'r contract newydd a oedd yn anelu at wella amgylchedd gwaith meddygon ymgynghorol, gwella prosesau recriwtio a chadw, ac annog cydweithredu rhwng rheolwyr iechyd a meddygon ymgynghorol er mwyn darparu gwasanaeth gwell i gleifion. Roedd cynllunio swyddi'n effeithiol ar gyfer meddygon ymgynghorol yn ganolog i sicrhau'r manteision hyn.
Trefn Cyngor Caerffili ar gyfer pennu cyflog uwch-swyddogion yn 'anghyfreithlon' Mae adroddiad er budd y cyhoedd ynghylch y prosesau a fabwysiadwyd gan Gyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili er mwyn pennu cyflog prif swyddogion wedi'i gyhoeddi heddiw. Bu'r adroddiad yn ystyried a oedd yr awdurdod lleol wedi gweithredu'n briodol wrth wneud penderfyniad ym mis Medi 2012 i gynyddu cyflog ei brif swyddogion.
Yr Archwilydd cyffredinol yn cyhoeddi Adroddiad Gwella Blynyddol ar Gyngor Casnewydd Mae'r adroddiad ar gael yn llawn ar ein gwefan a gellir ei weld drwy glicio ar y ddolen uchod. Yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill 2013, caiff adroddiadau Gwella Blynyddol eu cyhoeddi ar gyfer pob un o'r 28 o awdurdodau lleol, sy'n cynnwys cynghorau lleol, Parciau Cenedlaethol a gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru. Mae'r adroddiadau yn ystyried sut mae awdurdodau lleol yn cynllunio ar gyfer gwella a darparu eu gwasanaethau.
Archwilydd Cyffredinol Cymru yn ymateb i Bapur Gwyn Llywodraeth Cymru Gellir gweld yr ymateb yn llawn ar y dudalen Ymgynghoriadau.
Yr Archwilydd Cyffredinol yn cyhoeddi Adroddiad Gwella Blynyddol ar Gyngor Sir Gâr Yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill 2013, caiff adroddiadau Gwella Blynyddol eu cyhoeddi ar gyfer pob un o'r 28 o awdurdodau lleol, sy'n cynnwys cynghorau lleol, Parciau Cenedlaethol a gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru. Mae'r adroddiadau yn ystyried sut mae awdurdodau lleol yn cynllunio ar gyfer gwella a darparu eu gwasanaethau. Mae'r Archwilydd Cyffredinol hefyd wedi defnyddio gwaith arolygiaethau perthnasol eraill yng Nghymru, Estyn, Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru; ynghyd â gwaith a wnaed ar ran Swyddfa Archwilio Cymru, wrth baratoi'r adroddiad hwn.
Swyddfa Archwilio Cymru'n adolygu ei chynnydd mewn perthynas â chydraddoldeb Mae adroddiad Archwilydd Cyffredinol Cymru sy'n nodi cynnydd Swyddfa Archwilio Cymru tuag at gydymffurfio â'r Ddeddf Cydraddoldeb, a gyhoeddir heddiw, yn amlinellu'r camau a gymerwyd i gyflawni'r dyletswyddau cydraddoldeb statudol a gwneud egwyddorion cydraddoldeb yn rhan annatod o'r ffordd mae Swyddfa Archwilio Cymru'n gweithio.
Adroddiad Gwella Blynyddol ar Gyngor Sir Ynys Môn 2013 Yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill 2013, caiff Adroddiadau Gwella Blynyddol eu cyhoeddi ar gyfer pob un o'r 28 o awdurdodau lleol, sy'n cynnwys cynghorau lleol, parciau cenedlaethol a gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru. Mae'r adroddiadau yn ystyried sut mae awdurdodau lleol yn cynllunio ar gyfer gwella a darparu eu gwasanaethau. Mae'r Archwilydd Cyffredinol hefyd wedi defnyddio gwaith arolygiaethau perthnasol eraill yng Nghymru, Estyn, ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru; ynghyd â gwaith a wnaed ar ran Swyddfa Archwilio Cymru, wrth baratoi'r adroddiad hwn.
Awdurdod Tân ac Achub De Cymru - Adroddiad Gwella Blynyddol 2013 Yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill 2013, caiff Adroddiadau Gwella Blynyddol eu cyhoeddi ar gyfer pob un o'r 28 o awdurdodau lleol, sy'n cynnwys cynghorau lleol, parciau cenedlaethol a gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru. Mae'r adroddiadau yn ystyried sut mae awdurdodau lleol yn cynllunio ar gyfer gwella a darparu eu gwasanaethau. Mae'r Archwilydd Cyffredinol hefyd wedi defnyddio gwaith arolygiaethau perthnasol eraill yng Nghymru, Estyn, ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru; ynghyd â gwaith a wnaed ar ran Swyddfa Archwilio Cymru, wrth baratoi'r adroddiad hwn.
Awdurdod Parc Cenedlaethol Arfordir Penfro - Adroddiad Gwella Blynyddol 2013 Yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill 2013, caiff Adroddiadau Gwella Blynyddol eu cyhoeddi ar gyfer pob un o'r 28 o awdurdodau lleol, sy'n cynnwys cynghorau lleol, parciau cenedlaethol a gwasanaethau tân ac achub yng Nghymru. Mae'r adroddiadau yn ystyried sut mae awdurdodau lleol yn cynllunio ar gyfer gwella a darparu eu gwasanaethau. Mae'r Archwilydd Cyffredinol hefyd wedi defnyddio gwaith arolygiaethau perthnasol eraill yng Nghymru, Estyn, ac Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru; ynghyd â gwaith a wnaed ar ran Swyddfa Archwilio Cymru, wrth baratoi'r adroddiad hwn.
Strategaeth dair blynedd yn adeiladu ar adborth rhanddeiliaid Mae Archwilydd Cyffredinol Cymru wedi cyhoeddi heddiw ei 'Strategaeth i Archwilydd Cyffredinol Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru 2013-2016'. Esboniodd Mr Huw Vaughan Thomas: "Fy ngweledigaeth, fel Archwilydd Cyffredinol Cymru, yw i bobl Cymru fod yn glir ynghylch sut y caiff arian cyhoeddus ei wario ar eu rhan. Rwyf am i Swyddfa Archwilio Cymru gael ei chydnabod fel sefydliad effeithiol a reolir yn dda sy'n cynnig gwybodaeth ddefnyddiol ac anogaeth i gyrff cyhoeddus ar sut y gallant wella gwasanaethau.