Uwch Archwilydd - Perfformiad (Cymraeg Hanfodol) Hysbysebir y swydd yn un lle mae’r Gymraeg yn hanfodol. A ydych yn chwilio am ffordd o helpu i lunio a gwella gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru? A oes gennych sgiliau ymchwil gyda phrofiad o werthuso perfformiad gwasanaethau, llywodraethu ac atebolrwydd? Os felly, yna gallech chi fod y person rydym yn chwilio amdano i ymuno â'n tîm archwilio perfformiad.