Sgyrsiau Traws-Iwerydd - Sonja Blignaut Pan fyddwn yn canfod ein bod ar dir diarth ac anhysbys, mae angen i ni fod yn medru canfod ein ffordd ymlaen. Mae llawer o'r heriau datblygol sy'n ein wynebu yn anodd eu datrys. O ganlyniad, nid oes llwybrau o arfer gorau ar gael i'w dilyn. Eto, 'rydym yn disgyn yn ôl ac yn defnyddio arfer sydd yn ddibynnol ar fesur ac edrych yn ôl, ac anaml maent yn ein galluogi i ddeall cyd-destun a chymhlygedd yr hyn sydd o'm blaenau.
Lleoliad Gwaith Archwilio Ydych chi’n astudio ar gyfer cymhwyster cyllid neu gyfrifyddu achrededig ar hyn o bryd? A oes gennych chi ddiddordeb gwirioneddol yn y sector cyhoeddus? Hoffech chi gael profiad o weithio mewn amgylchedd archwilio allanol yn y sector cyhoeddus? Os ydy’r ateb i’r cwestiynau hynny’n gadarnhaol; yna efallai mai ein swydd lleoliad gwaith yr ydych chi’n chwilio amdani. Gan ymuno â’n tîm archwilio ariannol byddwch yn cael hyfforddiant a chefnogaeth lawn i ennill profiad a gwneud gwaith yn ein harchwiliadau Llywodraeth Leol a Chynghorau Tref a Chymuned.
Hyfforddai Graddedig Ydych chi am ennill wrth ddysgu? Ydych chi'n awyddus i fod yn rhan o sefydliad sy'n ysbrydoli sector cyhoeddus Cymru i wella? Oes gennych chi lygad am fanyldeb, sgiliau pobl dda ac yn awyddus i ddatblygu'n barhaus? Yna efallai mai ein rhaglen Hyfforddi i Raddedigion yw'r cyfle perffaith i chi.