Rheolwr Prosiect Newid Ydych chi am ein helpu i gyflawni newid sefydliadol yn fwy effeithiol? Nod ein gwaith yw gwella gwasanaethau cyhoeddus ledled Cymru ac rydym yn chwilio am rywun i'n helpu ni i wella hefyd. Rydym am benodi Rheolwr Prosiect Newid a fydd yn gyfrifol am ymgorffori newid a rhagoriaeth rheoli prosiect, trwy'r prosiectau y byddwch yn eu rheoli'n uniongyrchol a Rhaglen Newid Archwilio Cymru y byddwch yn dylanwadu arnynt. Mae hon yn rôl newydd sbon a byddwch yn helpu i wella aliniad prosiectau corfforaethol â'n huchelgeisiau strategol.
Uwch-gydlynydd Stiwdio A ydych chi’n greadigol gyda dawn dylunio? Ydych chi o hyd yn chwilio am ddulliau newydd i wella cyflawni gwasanaeth? Efallai mai CHI fydd ein Uwch-gydlynydd Stiwdio nesaf i ymuno â’n tîm cyfathrebu arobryn. A chithau'n arweinydd creadigol, byddwch yn chwarae rhan allweddol yn ein gwaith i drawsnewid y ffordd rydym yn cyfathrebu. Byddwch yn cydlynu gweithgareddau ein swyddogaethau Cyhoeddi a Dylunio, gan reoli llif gwaith, galw ac ansawdd.
Ymateb i'r Argyfwng Hinsawdd yng Nghymru Ymunwch â ni am 10 y.b. ar Fai 16eg er mwyn bod ymysg y cyntaf i ganfod canfyddiadau yr Adolygiad Gwaelodlin Dadgarboneiddio gan Archwilio Cymru. Mae adroddiadau diweddaraf y Panel Rhynglywodraethol ar Newid Hinsawdd (IPCC) yn cyfleu darlun tywyll o’r presennol, gan rybuddio y gellid gweld canlyniadau dinistriol wrth edrych i’r dyfodol. Nawr yw’r amser i weithredu os am gyfyngu cynhesu byd eang i 1.5C.
Matthew Edwards Mae'n Gyfrifydd Cyllid Cyhoeddus Siartredig gyda dros 20 mlynedd o brofiad archwilio yn y sector cyhoeddus o ran archwilio ariannol a gwaith gwerth am arian lleol. Mae Matthew hefyd yn gyn-Aelod o'n Tîm Arweinyddiaeth Weithredol ac yn gadeirydd Grŵp Datblygu Archwilio Ariannol Archwilio Cymru a arweiniodd at ddatblygu ein dull archwilio. Mae ganddo hefyd ddiddordeb brwd yn ein rhaglen i raddedigion o dan hyfforddiant a datblygu'r genhedlaeth nesaf o archwilwyr ac arweinwyr cyllid.