Accessibility tools

Rydym wedi gosod ReadSpeaker webReader, sy'n caniatáu i ymwelwyr drosi cynnwys ar-lein yn sain ar unwaith ar ein gwefan.

Cliciwch ar yr eicon uchod i roi cynnig arni, a manteisiwch ar yr ystod lawn o nodweddion defnyddiol Darllenyddwe trwy glicio ar y ddolen isod.

Gwefan Readspeaker

Datganiad hygyrchedd

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i www.archwilio.cymru. Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Archwilio Cymru. Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.

Gweld datganiad hygyrchedd

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon. Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n credu nad ydym yn bodloni gofynion hygyrchedd, cysylltwch â:

post@archwilio.cymru

Wythnos ym mywyd archwilydd dan hyfforddiant

11 Hydref 2021
  • Ymunais ag Archwilio Cymru ym mis Hydref 2020 fel hyfforddai graddedig.

    Cyn i mi ymuno, astudiais Hanes ym Mhrifysgol Rhydychen. Roeddwn wedi gwneud amryw o swyddi rhan-amser, megis gweithio mewn siop siocled, gofalu am blant mewn ysgol haf, a gweini mewn siop bysgod a sglodion, ond Archwilio Cymru oedd fy swydd 'go iawn' gyntaf a'm profiad cyntaf o archwilio neu gyllid.

    Gwnes gais i Archwilio Cymru yn bennaf am fy mod wedi astudio polisïau cymdeithasol yr ugeinfed ganrif yn ystod fy ngradd Hanes ac roedd gennyf ddiddordeb mewn polisi cyhoeddus a llywodraeth. Penderfynais fy mod am weithio yn y sector cyhoeddus a dechrau chwilio am gyfleoedd. Des i o hyd i gynllun graddedigion Archwilio Cymru ar-lein ac roedd y math o waith yn apelio ataf. Doedd gen i ddim profiad o gyllid o gwbl, ond roeddwn i'n meddwl bod archwilio yn swnio'n ddiddorol ac roeddwn wedi mwynhau Mathemateg yn yr ysgol. Ar ôl tyfu i fyny a mynd i'r brifysgol yn ne Lloegr, roeddwn hefyd am geisio symud i le newydd.

    Mae fy wythnos arferol yn Archwilio Cymru yn edrych yn go debyg i hyn:

    • Dydd Llun (gweithio gartref): Y peth cyntaf yw mynychu 'sgwrs dros baned' ar Microsoft Teams gyda'm rheolwr llinell ac aelodau eraill o staff maent yn eu goruchwylio. Rydym yn sgwrsio am ein penwythnosau a phethau newydd yr ydym yn gweithio arnynt ar hyn o bryd. Ar ôl hyn, rwy'n dechrau ar fy ngwaith am yr wythnos. Ar hyn o bryd rwy'n gweithio ar archwiliad cyfrifon terfynol awdurdodau unedol. Rhaid i bob cyngor ddatgan trafodion gyda 'phartïon cysylltiedig' (sefydliadau sydd â chysylltiadau â'r cyngor) o fewn eu cyfrifon blynyddol. Rwy’n dechrau gwirio bod y datganiad hwn wedi'i gwblhau ac nad oes unrhyw sefydliadau wedi'u hepgor.
    • Dydd Mawrth (gweithio gartref): Ar ddechrau'r dydd, mae gennyf gyfarfod Teams gyda chydweithwyr eraill sy'n gweithio ar yr un archwiliad. Rydym yn sgwrsio am yr hyn rydym wedi bod yn gweithio arno a sut mae'r archwiliad yn mynd. Ar ôl hyn, rwy'n parhau â'm gwaith ar bartïon cysylltiedig am weddill y dydd, gan fynd at yr Archwilydd Arweiniol i ofyn cwestiynau pan fo angen.
    • Dydd Mercher (yn y swyddfa): Yn y bore, dwi’n anfon nodyn atgoffa at y cyngor dwi’n ei archwilio, gan fy mod yn aros am ymateb i ambell i gwestiwn dwi wedi gofyn iddynt. Maent yn anfon y wybodaeth dwi wedi bod yn aros amdani a dwi’n galw fy Archwilydd Arweiniol i drafod yr hyn y maent wedi'i ddweud, gan nad oeddwn yn siŵr beth i'w wneud nesaf. Yn y prynhawn, mae gennyf gyfarfod â'm rheolwr llinell i siarad am fy nghynnydd gyda fy 'ysgolion datblygiad proffesiynol', sy'n rhan o gymhwyster ACA hyfforddeion graddedig. Mae hyfforddeion yn ysgrifennu enghreifftiau o bryd y maent wedi defnyddio sgiliau gwahanol i ddangos bod ganddynt bortffolio eang o alluoedd proffesiynol.
    • Dydd Iau (yn y swyddfa): Yn y bore, mae gennyf gyfarfod adborth gydag Archwilydd Arweiniol yr archwiliad llywodraeth ganolog yr oeddwn yn gweithio arno fis diwethaf. Trafodwn yr hyn a wneuthum yn dda a sut y gallai fy ngwaith wella, yn ogystal â sut yr aeth yr archwiliad ei hun eleni. Ar ôl hyn, rwy'n parhau â'm gwaith archwilio cyngor sir cyn mynychu sesiwn friffio fisol yr Archwilydd Cyffredinol, lle mae'n rhannu newyddion perthnasol ac yn ateb cwestiynau gan staff.
    • Dydd Gwener (gweithio gartref): Heddiw, dechreuaf weithio ar rai rhannau newydd o gyfrifon y cyngor sir. Mae hyfforddai arall yn gorffen ei waith ef ar yr archwiliad heddiw, felly mae'n fy ngalw er mwyn trosglwyddo ei waith i mi ac egluro beth sydd dal angen ei wneud. Rwy'n gweithio ar hyn am y rhan fwyaf o'r dydd.

    I unrhyw un sy'n ystyried gwneud cais i Archwilio Cymru, byddwn yn dechrau trwy ddweud y dylech ddarllen popeth y gallwch am Archwilio Cymru, ei waith a'r sector cyhoeddus yng Nghymru. Bydd hyn yn allweddol yn y broses ymgeisio ac yn ystod eich gwaith fel hyfforddai graddedig. Fy unig tip arall yw 'Gwnewch gais!'. Mae Archwilio Cymru yn lle gwych i weithio ac mae ei gynllun graddedigion yn gyfle gwych i ennill cymhwyster cyfrifeg o'r radd flaenaf a dysgu mwy am sector cyhoeddus Cymru.

    Ynglŷn â’r awdur

    Image of Hepzibah Hill

    Mae Hepzibah Hill yn hyfforddai graddedig yn Archwilio Cymru. Mae hi yng ngharfan 2020 ac wedi'i lleoli yng Nghaerdydd. Cafodd ei magu yn High Wycombe, Swydd Buckingham, cyn astudio Hanes ym Mhrifysgol Rhydychen. Mae hi'n mwynhau chwarae cerddoriaeth werin ar y ffidil, dawnsio a nofio.