Bwrw ati! – Myfyrio ar fy misoedd cyntaf fel hyfforddai yn Archwilio Cymru

22 Rhagfyr 2020
  • Mae Matthew Argyle wedi blogio am ei brofiadau

    Mae dechrau swydd newydd yn anodd. Pan fo yng nghanol pandemig byd-eang ac hon yw eich swydd broffesiynol amser llawn gyntaf mae’n anoddach fyth. Serch hynny, ni allai hyfforddeion carfan 2020 fod wedi cael croeso cynhesach i Archwilio Cymru!

    Cyflwyniad

    Erbyn diwedd yr wythnos gyntaf roeddem ni wedi cwrdd ag Archwilydd Cyffredinol Cymru ac wedi cael cyflwyniad i rannau’r busnes gan amrywio o ddadansoddi data i waith gwrth-dwyll. Ni wnaeth bethau arafu yn yr ail wythnos pan gawsom ni gipolwg ar fyd dryslyd cyfrifyddiaeth gan hyfforddeion a oedd wedi ymuno mewn blynyddoedd blaenorol a chyflwyniad i sgiliau archwilio gan aelodau’r tîm archwilio ariannol. Rhwng yr holl gyflwyniadau hyn cawsom ni lawer o gyfleoedd i ddod i adnabod ein gilydd fel carfan a digon o’r gweithgareddau torri’r ias! Fe wnaeth y ffaith ein bod ni wedi cael rhai cyfarfodydd drwy fideo cyn dechrau helpu i wneud y broses gyfan yn llawer llai brawychus.

    Sefydlu

    Ar ôl y pythefnos sefydlu gyntaf aethom ni ati yn ein clystyrau archwilio ariannol. Gofynnwyd i hyfforddeion De Cymru 1 gynnal prosiect i helpu i ddatblygu cyfres o adnoddau i bawb yn Archwilio Cymru eu defnyddio wrth gynnal gweithdai rhithwir a grwpiau ffocws. Rhoddwyd briff i’r pedwar ohonom ac wedyn cawsom ein gadael i fynd ati a gweithio allan sut i’w wneud ein hunain. Roedd hwn yn gyfle gwych i hyfforddeion SW1 ddod i adnabod ei gilydd. Fe wnes i fwynhau yn fawr iawn y rhyddid a gawsom i gwblhau’r prosiect yn ein ffordd ein hunain ac rwy’n credu ei bod yn adrodd cyfrolau am sefydliad os yw’n buddsoddi cymaint o ffydd mewn pobl mor newydd â ni i fwrw ati.

    Cwestiynau

    Roedd yr wythnos ganlynol yn cynnwys cwrdd â hyd yn oed mwy o bobl o hyd yn oed mwy o rannau o’r sefydliad. Cawsom sesiynau gyda phawb, gan gynnwys y Tîm Astudiaethau Ymchwilio a’r tîm sy’n gyfrifol am archwilio llywodraeth Anguilla. Yn ystod yr wythnos hon hefyd fe wnaethom ni ddechrau gwaith archwilio go iawn a ches i, ynghyd â’r hyfforddeion SW1 eraill, fy nyrannu i waith ardystio grantiau i rai o awdurdodau lleol de Cymru. Fel unrhyw swydd newydd, rydych chi’n aml yn cael eich hun yn meddwl nad oes gennych unrhyw syniad o beth sy’n digwydd a bod pawb yn siarad mewn iaith estron, ond cawsom ni gyd cymaint o gefnogaeth ag oedd ei angen gan ein timau archwilio. Nid oedd unrhyw gwestiynau yn rhy fach nac yn rhy dwp!

    Tasgau

    Yn ystod y cyfnod hwn, gofynnwyd i ni hefyd gefnogi gwaith y Tîm Cyfnewid Arfer Da. Rhannwyd yr holl hyfforddeion a phrentisiaid yng ngharfan 2020 yn dimau â thasg benodol i’w chyflawni – roedd y rhain yn amrywio o greu podlediad i werthuso arfer da sy’n gysylltiedig â’r Ddeddf Trais yn Erbyn Menywod a Cham-drin Domestig. Ar ddiwedd yr wythnos fe wnaethom ni gyflwyno ein canfyddiadau i’r Archwilydd Cyffredinol, sawl cyfarwyddwr a’r Tîm Arfer Da – eithaf brawychus ar ôl mis yn unig yn y swydd! Serch hynny, cafodd pob tîm sylwadau rhagorol ac roedd yn wych gweld pawb yn gwneud cystal.

    Hyfforddiant

    Cawsom ein hwythnos gyntaf o hyfforddiant proffesiynol go iawn yn gynnar ym mis Tachwedd ac roedd yn dipyn o sioc i’r system! Ar ôl dod yn syth o’r brifysgol y syndod mwyaf i mi oedd cyflymder y dysgu, roedd yn sicr yn fwy dwys nag unrhyw brofiad roeddwn i wedi’i gael am rai blynyddoedd! Wedi dweud hynny, mae’r tiwtoriaid yn gefnogol iawn, ac mae’n helpu i gael rhwydwaith cymorth eich cyd-hyfforddeion sy’n cael yr un profiadau. Mae’r adnoddau a ddarparwyd i gefnogi’ch dysgu yn rhagorol ac fe wnes i’n bersonol ddod i arfer â’r cynnwys yn gyflym ar ôl dechrau ei ymarfer. Fel y dywedodd pawb wrtha i, cyhyd â’ch bod yn gwneud y cwestiynau ymarfer dylech chi fod yn iawn! Mae’r arholiad ym mis Rhagfyr, felly cawn weld!

    Gwaith

    Ar ôl yr hyfforddiant, aethom yn ôl at y gwaith archwilio ariannol. I mi, roedd hyn yn golygu ymuno â thîm newydd ac archwilio cronfeydd elusennol. Her wahanol i’r hyn roeddwn i wedi’i wneud yn flaenorol, ond gyda’r un cymorth rhagorol gan y tîm cyfan!

    Wrth edrych yn ôl ar fy misoedd cyntaf nawr, rwy’n gallu gweld ei bod braidd yn ddwys, ond ni wnaeth byth deimlo’n llethol. Rwy’n credu mai’r ffordd orau o ddod i adnabod swydd yw mynd ati heb droi’n ôl, ac yn sicr cawsom y cyfle i wneud hynny gyda’r rhaglen y darparodd Archwilio Cymru i ni.

    Ymgartrefu

    Wrth i mi ymgartrefu yn fwy a gwybod mwy ac adnabod mwy o bobl, rwy’n teimlo’n fwyfwy hapus gyda fy mhenderfyniad i ymuno ag Archwilio Cymru. Mae’n weithle cyfeillgar a chroesawgar sy’n gwneud gwaith diddorol a phwysig.

    Fel hyfforddeion, rydym wedi ein cefnogi’n llawn i weithio o gartref wrth i’r busnes ddarparu unrhyw offer yr oedd ei angen arnom i wneud hynny’n ddiogel, gan gynnwys cadeiriau, desgiau a sgriniau. Rydym ni i gyd wedi bod yn cymryd rhan mewn her lles staff hefyd, sydd wedi bod yn gyfle gwych i adnabod mwy o bobl mewn sefyllfa fwy anffurfiol a hamddenol.

    Cyn ymuno ag Archwilio Cymru, roeddwn yn astudio gradd Feistr mewn Gwleidyddiaeth a Pholisi Cyhoeddus ac yn gweithio fel cynorthwyydd ymchwilio yn yr un maes, nid cefndir cyfrifyddu arferol! Roeddwn i’n poeni y byddai fy nghefndir academaidd yn fy nal i nôl neu’n ei gwneud yn anoddach i mi wneud yr hyfforddiant, ond ni fu hyn yn wir o gwbl. Nid oes gan neb yn fy ngharfan i gefndir cyfrifyddu na chyllid, yn wir, rwyf i wedi cwrdd ag archwilwyr yn y sefydliad â chefndiroedd yn amrywio o fferylliaeth i ffiseg i Ffrangeg ac Almaeneg.

    Efallai nad oes y fath beth â chefndir cyfrifyddu arferol wedi’r cyfan!

    Wrth i’r wythnosau droi’n fisoedd, rwy’n edrych ymlaen at weld beth arall y bydd fy ngyrfa yn Archwilio Cymru yn ei gynnwys!

    Mae ceisiadau ar gyfer ein Rhaglen Hyfforddai Graddedig ar agor nawr! Am fwy o wybodaeth ac ymgeisio [agorir mewn ffenest newydd].

    Matthew Argyle

    Cyn ymuno ag Archwilio Cymru, roedd Matthew Argyle yn fyfyriwr gradd feistr ac yn gynorthwyydd ymchwil yn adran gwleidyddiaeth a chysylltiadau rhyngwladol ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’n enedigol o Gaerdydd ac yn siarad Cymraeg yn rhugl. Mae Matthew yn mwynhau beicio, heicio a bod yn yr awyr agored yn gyffredinol.